Eu safbwyntiau a’u barn hwy eu hunain yw safbwyntiau a barn pawb sy’n cyfrannu at y wefan a’r platfformau cyfryngau cymdeithasol, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu safbwyntiau Nerth Dy Ben.
Mae gwefan a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol yn darparu gwybodaeth, nid cyngor.
Darperir y cynnwys at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir i’r cynnwys fod yn gyngor y dylech chi ddibynnu arno, ac nid yw’n gyfystyr â chyngor o’r fath. Nid yw’n ddewis arall yn lle cyngor penodol mewn unrhyw fodd.
Felly, bydd yn rhaid i chi gael y cyngor proffesiynol neu arbenigol perthnasol cyn gweithredu (neu beidio gweithredu) mewn unrhyw ffordd ar sail y wybodaeth ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch unrhyw fater meddygol, dylech chi holi eich meddyg neu ddarparwr gofal iechyd proffesiynol arall yn ddi-oed.
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n profi unrhyw gyflwr meddygol, dylech chi geisio sylw meddygol di-oed gan feddyg neu ddarparwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Ddim yn gwarantu nac yn rhoi sicrwydd
Er ein bod ni’n ymdrechu’n rhesymol i ddarparu gwybodaeth gywir a diweddaru’r wybodaeth hynny, nid ydym ni’n gwarantu nac yn rhoi sicrwydd fod y cynnwys (pa un ai a yw’n ddiamwys neu’n oblygedig) yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.
Gallwn atal neu ddiddymu’r wefan.
Gellir defnyddio ein gwefan yn rhad ac am ddim. Nid ydym ni’n gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys sy’n rhan ohoni, ar gael bob amser nac yn ddi-dor.
Mae Nerth dy Ben yn cadw’r hawl i atal, diddymu neu gyfyngu ar argaeledd unrhyw ran o’r wefan oherwydd rhesymau busnes neu weithredol.