Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cyd-weithio gyda fi dros y blynyddoedd diwethaf wedi nghlywed i’n dweud, “Ydyn ni’n iawn os yw’r ’worst case scenario’ yn digwydd?” Fel hyn dwi’n delio wrth wynebu sefyllfa, her neu gwestiwn newydd. 

“Rhaid dy fod ti’n gweithio mewn swydd go beryglus?” dwi’n clywed chi’n gofyn! Wel na, a dweud y gwir, pennaeth ysgol gynradd ydw i, ac wedi bod ers dros saith mlynedd. Felly pam mai fel hyn dwi’n meddwl? Oes rhywbeth gwael erioed wedi digwydd i un o’r plant neu staff o dan fy ngofal i newid y ffordd dwi’n edrych ar fywyd? Eto, na yw’r ateb i rhain i gyd. Dwi ddim yn hollol siwr pryd na pam wnes i ddechrau edrych ar bethau fel hyn a dwi ddim yn meddwl wna i byth stopio nawr i ddweud y gwir – a dyna fel mae hi, dwi wedi derbyn hynny! 

Mae pawb yn delio gyda sefyllfaoedd mewn ffyrdd gwahanol ac mae hynna’n rhan allweddol o pwy ydyn ni – does dim ffordd gywir neu anghywir o wneud pethau, jyst eich ffordd chi. I fod yn onest, dwi’n gallu bod yn berson eitha pesimistig, yn methu gweld sut alla i lwyddo i gwblhau rhai tasgau ac yn rhoi lan cyn dechrau bron. O ie, anghofies i ddweud, dwi’n hoffi cwyno hefyd! Dyma lle mae cefnogaeth eraill yn holl bwysig. Fyddai dim gobaith mul gen i wneud y swydd dwi ynddi heb gymorth, cefnogaeth a chariad fy nheulu a ffrindiau. Rhannwch eich baich, da chi.  

Barn y rhan fwyaf o bobl am athrawon yw ein bod yn cael gormod o wyliau, gormod o gyflog a ddim yn gweithio digon! Peidiwch camddeall fi, mae’r swydd yn gallu bod yn hynod anodd a heriol, yn enwedig ar hyn o bryd, gan ein bod ‘on call’ 24 awr y dydd am 7 diwrnod yr wythnos – diolch i dechnoleg mae hynny. Er dweud hyn, fydden i byth yn newid fy swydd am y byd achos mae gweithio gyda plant, y pethau mwyaf gwerthfawr erioed, yn fraint. 

Dyna pam dwi’n meddwl fel hyn, fy null o ddelio gyda sefyllfa newydd, fel yr eglurais ar y dechrau, gan fy mod yn gweithio gyda’r pethau mwyaf gwerthfawr yn y byd – plant. Mae’r pwysau sydd ar fy ysgwyddau yn anferth, nid yn unig fod yn rhaid i bob un plentyn yn fy ngofal fod yn ddiogel yn gorfforol a meddyliol, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hapus yn dod i’r ysgol, yn gallu ymddiried mewn oedolion eraill, yn unigolion iach sydd yn cael digon o faeth ac ymarfer corff – a hyn i gyd cyn dechrau ar y dysgu. 

Dydy’r swydd byth yn hawdd ac mae’r cyfnodau clo yma, er yn hollol angenrheidiol, yn ofnadwy o anodd i blant a staff, a’r ffordd dwi’n delio gyda phob sefyllfa newydd sy’n fy wynebu yw drwy feddwl, ‘Beth yw’r ‘worst case scenario’? Does dim posib i fi reoli pob dim ac yn sicr dydy pob plentyn, rhiant nag aelodau staff ddim yn mynd i hoffi’r penderfyniadau dwi’n eu gwneud, ond os ydw i wedi gwneud fy ngorau i warchod yr hyn sy’n bwysig i mi, yn blant pobl eraill neu fy mhlant a fy nheulu fy hun, yna alla i ddim gwneud mwy na hynny. A dyna lle dwi’n cael y nerth i ddelio gyda bywyd ac yn cynnal fy nghryfder meddwl, drwy dderbyn yr hyn na allaf ei reoli, gwneud fy ngorau i wella’r hyn dwi’n gallu a chysgu’n dawel fy meddwl.

Dafydd Rhys