Dwi’n teimlo’n hynod o ffodus i fod yn gweithio fel therapydd cerdd.  Mae cerddoriaeth yn bŵerus, mae’n chwarae rôl bwysig yn ein bywydau o ddydd i ddydd ac mae’n gallu dylanwadu ar ein teimladau a’n hemosiynau ni. Mae o hefyd yn ffordd i ni fynegi ein teimladau ac emosiynau pan nad yw defnyddio geiriau bob tro yn bosib nac yn ddelfrydol.

Mae gennym ni gysylltiad emosiynol gyda cherddoriaeth, cysylltiad cyntefig iawn.  Gall gerddoraieth fod yn hwyl, yn apelgar, yn brofiad arbennig, yn gysur, yn ddaioni ac yn fuddiol.

Lles Canu

Mae canu yn rhyddhau cemegion ‘endorphins‘ sy’n helpu i reoli ein tymer (mood). Mae hefyd yn rhoi hwb i’r system imiwnedd.  Mae canu yn rhyddhau ‘oxytocin‘ sef hormon sy’n lleihau teimladau o straen a phryder.  Gall canu fod o les i’n ‘cognitive function‘ – gall wella ansawdd y cof ac ymestyn ein sylw (attention).  Mae’r galon yn cael ymarfer corff ac mae capasiti’r ysgyfaint yn ymestyn.  Peidiwch â thalu i fynd i’r gampfa – ymunwch gyda chôr!!

Sut mae cerddoriaeth yn effeithio arnom ni? (Dylanwad ffisiolegol ac emosiynol)

Dychmygwch eich bod yn yr Eisteddfod ar lwyfan y maes yn mwynhau gwrando ar berfformiad gan Yws Gwynedd o’r gân ‘Sebona Fi’.  Mae’n debyg bod eich troed/braich/corff yn symud i’r curiad, mae hi’n gân fywiog ac egnïol gyda thempo cyflym (sy’n codi curiad y galon).  Mae’r patrymau rhythmig croes-acennog yn cynnig rhythm diddorol sy’n ein tynnu i ddechrau dawnsio.  Mae’r alaw a’r dilyniant cordiau yn ein tywys ar daith sy’n cyrraedd uchafbwynt yn y gytgan canadwy a chofiadwy – gyda defnydd o eiriau ail-adroddus yn ategu at yr uchafbwynt.  Rydych chi’n teimlo’n hapus ac yn llawen ac yn mwynhau rhannu’r profiad cymdeithasol ymysg ffrindiau.  Mi fydd y profiad positif yma yn creu atgof yn y cof a fydd yn cael ei atgyfnerthu bob tro fyddwch yn clywed y gân neu’n meddwl am y gân yn y dyfodol.  Byddwch hefyd yn profi ac yn ail-fyw yr un teimladau a’r emosiynau.

Cerddoraieth a dementia

Yn fy swydd fel therapydd cerdd, dwi’n gweithio gyda phobol hŷn sy’n byw gyda dementia, ac mi fydda i’n gweld dylanwad bositif cerddoraieth ar les a iechyd unigolion yn ddyddiol.   Un o’m swyddogaethau fel therapydd cerdd ydy ceisio datgloi atgofion a chynnig cyfleoedd i unigolion archwilio eu hatgofion trwy gyfrwng cerddoriaeth.  Mae’n fy rhyfeddu bob tro pan nad yw unigolyn sy’n byw gyda dementia yn gallu cofio sut i fwydo eu hunain ond maent yn gallu canu a chofio bob gair o dair pennill Calon Lân.  Mae eu symptomau niwro-seiciatryddol megis iselder, gor-bryder a chynnwrf yn lleihau tra mae lefelau lles yn esgyn –  dyma yw cryfder a nerth cerddoriaeth i mi.  

Blaenoriaethwch brofiadau cerddorol er budd eich lles

Llun hawlfraint: Aled Llywelyn / EGC