Fel arfer, uchafbwynt y tymor fyddai trafeilio lawr ar y dydd Gwener i ‘Cneifio Cothi’ i gystadlu yn y fan honno, aros wedyn yn Llanbed a chystadlu yno cyn mynd fyny i Lanelwedd ar y nos Sadwrn a chystadlu yn y Cneifio Cyflym ar y dydd Sul. Dyna fo, mae’r Sioe wedi cychwyn a phawb yn barod amdani. Paratoi wedyn i gystadlu yn y Sied Gneifio ar faes y Sioe ar y bore dydd Mawrth a’r awyrgylch yno yn drydanol – does dim byd tebyg iddo. Treulio mwyafrif y diwrnod yno cyn mynd ymlaen i fwynhau gweddill y Sioe. Cyrraedd adref ar y nos Iau yn reit flinedig am rhyw reswm, a pharatoi i gystadlu yn ‘Cneifio Corwen’ ar stad Rhug ar y dydd Gwener a Sadwrn – diweddglo i wythnos lawn a hollol wych! Ond na …. eto eleni, fydd ddim o hyn yn digwydd.
Mae’r cymdeithasu a rhannu’r un diddordeb yn grêt, a dyma fydda i’n ei golli yn fwy na dim eto eleni …. colli’r ‘buzz’ o fod gyda ffrindiau, y cymdeithasu sy’n digwydd tu cefn wrth gael defaid yn barod i’w cneifio, yr adrenalin a’r nerfusrwydd wrth baratoi i gystadlu ac yna’r mwynhau ar y diwedd! Colli clywed yr anthem a’r haka a chlywed lleisiau unigryw y rhai sy’n sylwebu ar y cystadlu!
Dwi’n teimlo’r golled o’r sioeau i gyd, nid yn unig y Sioe Fawr – mae’r sioeau bychain yr un mor bwysig ac yn cynnig cyfleoedd i sawl un fel fi i ddechrau ar y siwrne o gystadlu. Mae’r dechneg wedi fy ngalluogi i gneifio gyda chriw hwyliog dros misoedd yr haf ers ambell flwyddyn rwan a does dim byd brafiach na galw yn y dafarn a dal i fyny a chael sgwrs ar ddiwedd diwrnodau sy’n gallu bod yn hir weithiau. Mae’n bwysig cofio hefyd, wrth fynd o fferm i fferm ein bod ni fel criw cneifio, gobeithio, yn gallu helpu ychydig ar iechyd meddwl rhai ffermwyr sydd o bosib ddim wedi gweld fawr o neb yn rhoi troed ar fuarth y fferm dros y misoedd diwethaf. Mae stopio am ‘chydig a chael sgwrs dros baned neu stopio amser cinio yn braf i bob un ohonom. Mae na gymeriadau diddordol a phob un ohonynt yn bwysig.
Mae sawl un yn dweud y drefn am y ffonau symudol a’r cyfryngau cymdeithasol ond i mi, mae wedi bod yn adnodd pwysig ofnadwy i ddal fyny a chadw mewn cyswllt gyda hwn a’r llall. Dwi wedi bod yn cneifio draw yn Seland Newydd ddwywaith rwan ac wedi gwneud ffrindiau da gyda rhai eraill o Gymru tra yno. Mae wir yn hanfodol i mi gael ffordd o gadw cyswllt gyda nhw gan mai amryw o’r rhain yw ‘fy nheulu’ am tua 3 mis dros y Gaeaf tra dw i draw yno yn cneifio.
Dwi ddim y gorau am y pethau traddodiadol fyddai yn cynnal nerth fy mhen mae’n debyg. Dwi ddim yn un da am fynd i gerdded na rhedeg ond dwi wedi colli chwarae pêl droed dros y flwyddyn a mwy diwetha, ac yn edrych ymlaen i gael ail ddechrau. Mae’n torri yr wythnos i fyny ac yn gyfle i anghofio am rhai o broblemau gwaith pob dydd. Dw i ddim y gorau am ddarllen chwaith ond dwi wrth fy modd, tra’n cneifio cael cerddoriaeth yn bloeddio allan o’r ‘speaker’ – yn sicr repertoire sydd ddim at dast pawb mae’n siwr, ond mae wir yn helpu i gadw nerth fy mhen i ac yn rhoi boddhad mawr i mi gan godi calon ac ysbryd rhywun pan mae diwrnodau yn hir. Dwn i ddim sut mae’r defaid na’u perchnogion yn teimlo chwaith cofiwch!!
Rhidian Edwards