Dyma ni am yr ail flwyddyn yn wynebu’r haf heb y Sioe Frenhinol. Dyma yn wir i ni, fel sawl teulu arall, yw (oedd) ein gwyliau blynyddol, ein cyfle i dreulio amser gyda rhywfaint o’r teulu a ffrindiau am 5 diwrnod lawr yn Llanelwedd! Dwi’n siwr basa sawl un ohonoch yn dweud – “allai ddim meddwl am ddim gwaeth” – a dyna sy’n braf ynde, ‘da ni gyd yn wahanol, ac mae hynny yn holl bwysig i ni gadw mewn cof ….. mae pawb yn wahanol a does NEB yn berffaith.
Paratoi: Y rwtîn arferol …. diwrnod ffwrdd ar y dydd Gwener, glanhau’r garafan (er fy mod wedi gwneud hynny cyn ei rhoi i gysgu mewn sied dros y gaeaf!) a phacio POB DIM alla i feddwl amdano nes does bosib gwasgu heibio’r drws. Gormodedd o ddillad, gormodedd o fwyd, sachau cysgu (rhag ofn), bwrdd mawr i’r adlen i ddal yr oergell, tegell, toaster ayyb – ac yn y diwedd cael trefn – barod i gychwyn pnawn Sadwrn. Yr holl stwff yn achosi lot o palafa ar ôl cyrraedd Llanelwedd ac Erfyl yn despret am baned (neu rhywbeth cryfach) cyn dechrau meddwl am y testun difôrs blynyddol o godi’r adlen!! Dan ni yn altro pob blwyddyn … neu oddwn i’n meddwl hynny, ond pwy â wyr sut stȃd fydd arnan ni pan gawn ni fynd nôl i’r sioe yn 2022.
Mae rhywbeth sbeshal iawn am y Sioe. Y cystadlu, y cymdeithasu, cwrdd â ffrindiau hen a newydd, cael rhyw drît bach am ddim gan ambell stondin, profi awyrgylch anhygoel ble bynnag yr ewch chi – o’r siediau anifeiliaid, y sied gneifio, cystadlaethau’r Ffermwyr Ifanc, yr arddangosfeydd yn y prif gylch, y babell flodau a’r campweithiau anhygoel i’r llygad, y peiriannau diweddaraf, Bryn Fón yn Penmaenau – heb anghofio’r mop, haearn smwddio, torrwr tomatoes zig-zag a’r cyrliwr ciwcymbrs sydd yno yn flynyddol ers imi gofio!
Mae’n draddodiad gennym ni fel cyfnitherod a’n plant (ladies only!) gael ‘Pnawn Pimms’ ar y prynhawn dydd Mawrth yn y ‘Members’. Er ein bod mewn cyswllt drwy ‘What’s app’ neu dext yn eitha’ rheolaidd, mae WIR yn ddigwyddiad pwysig a sbeshal i ni gyd. Mae na siarad di-stop, hel atgofion a lot o chwerthin a sawl jwg yn mynd nôl a blaen i’w hail-lenwi. Diolch am y Sioe i sicrhau y cyfle i ni gwrdd fel hyn a thynnu’r llun blynyddol wrth gwrs.
Be sy’n bwysig ydi ein bod ni’n edrych ymlaen at yr amser hynny eto. Dros y deunaw mis diwethaf, dan ni wedi clywed a gweld y geiriau ‘Daw eto Haul ar Fryn’ …. ac MI ddaw, ond mae’n rhaid i ni fod yn gall, a thrio gwneud popeth allwn ni i sicrhau hynny hefyd. Mae rhyw ddaioni wedi dod o hyn i gyd hefyd cofiwch. Sut medde chi? Wel … mae bwrdd yr adlen bellach yn ddesg i mi tra’n gweithio adref ac wedi gwneud y job yn grêt! Pan ddaw hi’n Sioe 2022, mi fydd rhaid i mi feddwl fforchio allan am ddesg go iawn bryd hynny …. ac mi fydd werth pob ceiniog i gael mynd nôl i’r Sioe.
Yn ystod y misoedd diwethaf – dwi wedi edmygu a diolch llawer iawn am weithwyr y gwasanaeth iechyd. Mae ein dyled yn enfawr i bob un ohonyn nhw. Mi fydd na Sioeau ac mi fydd na Eisteddfodau eto ac yn y cyfamser, rhaid cadw ein hunain a’n hiechyd meddwl mewn cyflwr i allu gwerthfawrogi a mwynhau pan ddaw yr amser hynny eto. Sut i mi? ….. wel, pan fydd amser a thywydd yn caniatau, fydda i’n trio garddio ‘chydig. Dwi wir ddim yn honni i fod yn arddwraig o bell ffordd, ond mae gen i ‘rockery’ o rhyw fath, ac mae chwynnu hwnnw yn achlysurol a gweld y lliwiau hyfryd yr amser hyn o’r flwyddyn yn codi fy nghalon. Mae eistedd allan gyda’r nos gyda gwydraid bach o win gan edrych ar y lliwiau yn ymlacio rhywun ar ddiwedd diwrnod. Fydda i’n mwynhau cerdded ac yn aml yn cael cwmni ffrind i fynd am dro min nos. Mi siaradwn ni am bob dim dan haul. Cefais anrheg hyfryd o eiriau wedi eu fframio gan ffrind arall i mi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – “Mae ffrindiau da fel sêr, ddim yn eu gweld drwy’r adeg ond mae’n braf gwybod eu bod nhw yno bob amser” . Mae ffrindiau mor bwysig – diolch amdanyn nhw i gyd.
Menai Edwards
Llun o brint ‘Mae ffrindiau da fel ser…’ gan Buddug