Y ‘Royal Welsh’ – digwyddiad sydd wedi bod yn uchafbwynt fy nghalendr blynyddol ers dros 35 mlynedd bellach mae’n siwr.  Felly roedd methu y Sioe yn 2020 nid yn unig yn siom i ni i gyd yng Nghlwyd fel y Sir nawdd, ond o safbwynt yr ochr gystadlu a’r cymdeithasu mae wedi bod yn chwith mawr i mi a sawl un arall sy’n edrych ymlaen cymaint at y Sioe dwi’n siwr.  Mae’r Sioe Frenhinol fel Mam y sioeau a’r sioeau bychain wedyn yn dilyn yr un mor bwysig.  Mae cael y cyfle i sgwrsio, dal i fyny, cymharu, beirniadu yn answyddogol, edmygu a’r cymdeithasu yn rhan bwysig iawn o fy haf arferol.

Dwi ddim yn foi Eisteddfod mae’n rhaid i mi gyfaddef ond mae na rhywbeth am y Sioe fawr sy’n rhoi rhyw foddhad mawr i mi.  Mae pawb fel petaen nhw wedi gadael unrhyw bryderon adref ac yn setlo ar faes y Sioe yn Llanelwedd am ychydig ddiwrnodau i ymlacio yn llwyr a mwynhau.  Mae’n gyfle i ddal fyny gyda rhai nad ydw i wedi eu gweld ers blynyddoedd yn ogystal â rhai dwi mewn cyswllt â nhw’n reit rheolaidd ac yn byw yn lleol i mi.  Mae pawb yn un teulu mawr yno a dwi wir wrth fy modd.

Felly tipyn o newid oedd hi llynedd ac eleni yn anffodus, gyda’r daith i lawr i Builth ac yn ól ddim yn digwydd.  Felly mae’n rhaid cadw y corff a’r enaid yn bositif ……a byw mewn gobaith am Ffair Aeaf yn hwyrach yn y flwyddyn a’r Sioe Fawr i ddilyn yn 2022.

Mae ffermio yn gallu bod yn swydd unig iawn, yn enwedig yr adeg hyn o’r flwyddyn pan mae Rhidian y mab allan yn cneifio bron yn ddyddiol.  Mae’n reit braf mynd allan i felio i ambell un yn ystod y cynhaeaf a chael cyfle i gael sgwrs a dal fyny.

Fel ffordd o gadw ‘nerth fy mhen’ dwi yn un sydd yn hoff iawn o gerddoriaeth – er nad ydw i yn ganwr o bell ffordd, ond dwi wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn bloeddio canu pan fyddai ar y tractor, ac yn y pick-up – mae’r gwartheg ‘ma wedi fy nghlywed yn bloeddio ‘Eryr Pengwern’ sawl tro – does neb yn fy meirniadu am fod allan o diwn neu yn fflat!  Fyddai wrth fy modd yn gwrando ar ganeuon sioeau cerdd ac yn edmygu y talentau o Gymru sy’n ein cynrychioli yn y West End.

Byddaf yn aml yn ymlacio wrth gerdded y caeau ar noson braf ac yn edmygu’r olygfa, y tawelwch a’r cynefin o’n cwmpas a chymryd fy amser yn mynd o gwmpas y buchod a’r lloeau.  Mae’n rhyfedd, er nad oes sgwrs gall rhwng dyn a’i anifail fel petai, mae na ddealltwriaeth dda yna!  Mae amsugno’r tawelwch yn arbennig ac yn rhoi amser i’r meddwl a’r enaid gael llonydd am ‘chydig bach.

Mae’n braf hefyd bod rhywfaint o’r rheolau covid wedi llacio a bod cyfle i gael dal i fyny gyda ffrindiau.  Dyna fyddai am drio ei wneud yn ystod yr haf eleni, fydd dal fyny gyda rhai nad ydw i wedi eu gweld dros y 18 mis diwethaf a chael cyfle i gael pryd o fwyd, sgwrs a llond bol o chwerthin.

Cadwch yn saff i gyd a wela i chi yn y Sioe Fawr yn 2022!

Erfyl Edwards