I fi yn bersonol, mae cryfder meddwl yn rywbeth dwi fel arfer yn ei anghofio. Yn rywbeth dydw i fel unigolyn ddim yn ei flaenoriaethu. Rhaid i mi gyfaddef, rydw i yn aml iawn yn anghofio’r ffaith fod hi’n iawn i ni gael ambell i ddiwrnod gwael, diwrnodau lle mae rhywun yn teimlo yn ddigon di-galon.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bob un ohonyn ni.  Dwi’n siŵr fod gan bawb brofiad gwahanol gyda COVID, rhai yn barod i’w anghofio a rhai yn ei weld fel bendith.  Roedd yr holl gyfnod yn hollol chwerw felys i ddweud y lleiaf.  Er fy mod i yn licio cael ambell i ddiwrnod diog o bryd i bryd, mae’n holl bwysig i ni gael trefn ar fywyd.  Wel, i mi yn bersonol mae cael trefn i fy niwrnod neu drefn i’r wythnos sydd o fy mlaen yn rhoi strwythur i mi.  Wrth edrych nol ar y misoedd diwethaf, ac y flwyddyn 2020 i gyd, mae’n sicr wedi gwneud i mi sylweddoli fod cryfder meddwl yn bwysicach nag erioed.

Drwy’r cyfnod clo cyntaf, roeddwn i yn gweithio mewn cartref preswyl ar gyrion Cerrigydrudion.  Dydi gweithio fel gofalwr mewn cartref preswyl ddim yn hawdd beth bynnag, felly roedd mynd yn syth i weithio yng nghanol y pandemig yn brofiad a hanner i ddweud y lleiaf.  Roeddwn i yn gofalu am unigolion oedd yn dioddef â dementia, felly roedd addasu i’r ffordd newydd o fyw yn hyd yn oed yn fwy o sialens i’r unigolion hyn.  Doedd neb yn ymwybodol o’r offer amddiffynnol (PPE) roedd rhaid i ni wisgo er mwyn ein gwarchod, roedd yr holl beth yn hollol newydd i bawb.  Roedd rhaid i mi, rhywun doedd erioed wedi gweithio mewn unrhyw leoliad iechyd a gofal o blaen addasu yn sydyn i’r newidiadau hyn. Yn ogystal a chryfder meddyliol, roedd cryfder corfforol yn bwysig i mi yn bersonol hefyd.  Roeddwn i’n gweithio oriau hir, ac yn amlwg roedd y blinder yn ormod ar adegau.  Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod, mae cofio sylwadau rhai o fy nghydweithwyr neu rhai or preswylwyr yn wir yn codi fy nghalon.  Roeddwn i yn gallu rhoi cymorth a wedi gallu rhoi cysur i’r unigolion. Doedd neb yn cael ymweld a’r cartref, felly roedd yn ddyletswydd arnaf i drio codi calon yn ystod adeg mor heriol ac ansicr.

Erbyn hyn rwyf yn fyfyriwr ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl yn astudio i fod yn Nyrs Oedolion.  Yn amlwg, mae Lerpwl yn dipyn o newid o fod adre yn Llansannan.  Mae wir wedi bod yn agoriad llygad imi wrth symud yma.  Mae mynd i’r Brifysgol yn adeg cyffrous, ac yn adeg pryderus i bawb. Gyda COVID, mae’n wir wedi bod yn sialens i unigolion yn eu blwyddyn cyntaf i gymdeithasu, i wneud ffrindiau ac i addasu i fywyd y Brifysgol. Roeddwn i fel myfyriwr y flwyddyn gyntaf yn gweld hyn yn heriol i ddweud y lleiaf.

Erbyn heddiw rydw i wrth fy modd gyda Lerpwl, rydw i bron a gorffen fy mlwyddyn gyntaf ac wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf gyda fy hyfforddiant mewn ysbytai mawr o fewn y ddinas.  Rydw i wir yn teimlo fy mod wedi datblygu fel person, ac yn sicr fel Nyrs.  Wrth i mi ddechrau dod yn fwy cyfarwydd gyda marwolaeth, salwch a gweld unigolion yn dioddef, mae’n wir wedi gwneud i mi orfod caledu fel unigolyn. Dw i wir yn teimlo fy mod wedi aeddfedu fel unigolyn, ac rydw i yn sicr yn gweld gwerth mewn cryfder meddwl erbyn hyn.

Gyda bwrlwm a phrysurdeb y ddinas dal yn newydd i mi, does dim amheuaeth fy mod i dal yn methu adre’.  Rydw i wrth fy modd yn dod adre o bryd i’w gilydd er mwyn cael seibiant o’r ddinas fawr. Mae dod adre i Gymru bob amser yn dod a cysur i mi.  Hiraeth!  Erbyn hyn dwi wir yn gwerthfawrogi adre, dan ni wir mor lwcus o’r hyn sydd gennym ni yn nghefn gwlad Cymru.  Pan dwi’n dweud fy mod yn gallu mynd am dro rownd y caeau, neud mynd allan i’r awyr iach heb orfod gweld neb, mae nifer o fy nghydweithwyr yn Lerpwl yn gwirioni.  Mae distawrwydd adre wir yn rhoi cyfle i mi ddadflino, ac anghofio am y gwaith coleg am gyfnod.

Diolch i’r drefn, mae’n sicr fod pethau yn dechrau gwella.  Rydym ni i gyd yn ail-gychwyn cymdeithasu, ac yn dechrau dod yn agosach i fywyd ‘normal’. Ers COVID, rydw i wedi sylweddoli fy mod yn berson sydd angen meddwl ymlaen i’r dyfodol.  Rwyf wedi sylweddoli ei fod yn hanfodol i mi gael rhywbeth i edrych ymlaen ato, rhywbeth i godi hwyliau, hyd yn oed rywbeth mor fach a mynd am baned gyda ffrind, neud mynd am dro i gael sgwrs.  Mae’r pethau bach wir yn mynd yn bell, os oes un peth da wedi dod o’r holl bandemig mae’r ffaith ein bod yn gwerthfawrogi pethau syml mewn bywyd yn sicr yn rywbeth positif iawn i mi.

Mi fydd Haf 2021 yn haf gwahanol iawn i ni eto eleni. Wrth i ni ddechrau mwynhau eto yng nghyffro yr haf, mae bywyd dal yn bell o fod yn ‘normal’.  Er does na ddim ‘Steddfod na Sioe eto eleni, mi fydda i yn sicr yn gwerthfawrogi beth bynnag ddaw yr haf i mi!