Mae Nerth dy Ben wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd ar-lein, ac i’ch hysbysu chi sut byddwn ni’n defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch chi’n ei darparu i ni.

Darllenwch y polisi canlynol i ddeall sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin. Trwy ymweld â gwefan www.nerthdyben.cymru, rydych chi’n derbyn yr arferion a nodir yma. Gallai’r polisi hwn newid o bryd i’w gilydd, felly cofiwch ei ddarllen o bryd i’w gilydd.

1. Gwybodaeth amdanoch chi

(a) Gallwn gasglu gwybodaeth bersonol gennych chi pan fyddwch chi’n gwneud y canlynol:

  • Cyflwyno gwybodaeth i’w defnyddio ar ein gwefan neu ein platfformau cyfryngau cymdeithasol;
  • Cofrestru i wirfoddoli i Nerth Dy Ben;
  • Cofrestru i gael eich cynnwys yn unrhyw un o’n rhestrau postio;
  • Prynu unrhyw un o’n cynhyrchion;
  • Archebu tocyn ar gyfer unrhyw weithgaredd neu ddigwyddiad y byddwn ni’n ei gynnal;
  • Holi am unrhyw agwedd o’r gwaith rydym ni’n ei wneud;
  • Gofyn am neu rannu gwybodaeth trwy gyfrwng y Wefan;
  • Cysylltu â ni trwy gyfrwng y Wefan neu unrhyw sianel arall.

(b) Gall y wybodaeth bersonol hon gynnwys y manylion canlynol (ymhlith eraill) amdanoch chi:

  • eich enw (yn cynnwys eich enw/enwau cyntaf a’ch cyfenw);
  • eich cyfeiriad e-bost;
  • eich cyfeiriad;
  • eich rhif ffôn;
  • manylion eich cyfrif banc;
  • eich dyddiad geni;
  • manylion eraill y byddwch chi neu y bydd eraill yn eu darparu i ni.

Efallai y byddwn ni hefyd yn gofyn i chi am rywfaint o wybodaeth nad yw’n bersonol neu’n casglu gwybodaeth o’r fath.

2. Sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon

(a) Byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol yn unig:

  • prosesu eich ceisiadau, eich archebion neu eich taliadau;
  • ymateb i’ch cwestiynau neu eich sylwadau;
  • darparu neu weinyddu gwasanaethau, megis cynnwys y wefan neu’r cyfryngau cymdeithasol, neu e-gylchlythyrau;
  • dangos eich sylwadau ar y wefan;
  • darparu i chi ynghylch Nerth dy Ben, neu wybodaeth a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein tyb ni;
  • cynnal cofnodion ein sefydliad;
  • sicrhau y cewch eich cynnwys yn y rhestr neu’r rhestrau postio mwyaf priodol a mwyaf addas i’ch oedran, a’n bod ni’n cael caniatâd rhieni os bydd hynny’n ofyniad cyfreithiol.

(b) Pan fyddwch chi’n tanysgrifio i dderbyn ein he-gylchlythyr, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i storio eich manylion ac i gysylltu â chi. Byddwn ni’n parhau i anfon ein cylchlythyr atoch chi tra byddwch chi’n cydsynio i’w dderbyn.

(c) Os na fyddwch chi’n dymuno derbyn gwybodaeth gennym ni, cysylltwch â ni gan e-bostio nerthdyben@outlook.com gan nodi’r gair “dad-danysgrifio” yn llinell testun y neges e-bost.

(ch) Ni wnaiff Nerth dy Ben rannu eich manylion personol ag unrhyw drydydd parti, ac eithrio pan fydd cwmnïau yn darparu gwasanaethau i chi ar ein rhan, megis prosesu cyfraniadau neu archebion. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n cyfrannu arian ar-lein trwy gyfrwng JustGiving, byddwch chi’n gwneud hynny trwy law cwmni sy’n bartner i ni, a bydd y wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi megis rhif eich cerdyn credyd a’ch manylion cysylltu yn cael eu darparu fel y gellir gweithredu’r trafodyn.

(d) Byddwn yn defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata awtomatig. Bydd y wybodaeth y byddwch chi’n ei darparu wrth gofrestru i gynnwys eich manylion yn unrhyw un o’n rhestrau postio yn cael ei throsglwyddo i MailChimp i’w phrosesu yn unol â’u Polisi Preifatrwydd a’u Telerau.

3. Am faint y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Ni fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth yn hwy na’r hyn sy’n rhesymol ac yn ofynnol at ddibenion y gweithgaredd perthnasol, ac efallai y byddwn yn gwneud hynny i gyflawni oblygiadau statudol (er enghraifft, casglu Cymorth Rhodd).  Neu, er enghraifft, os byddwch chi wedi rhoi eich manylion i ni er mwyn cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y byddwch chi’n cydsynio i dderbyn ein gwybodaeth.

4. Diogelwch

(a) Byddwn yn ymorol o fewn rheswm i atal colli, camddefnyddio neu newidiadau heb eu hawdurdodi i’r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi.

(b) Gellir anfon gohebiaeth mewn perthynas â’r wefan a’i chynnwys atoch chi trwy gyfrwng negeseuon e-bost. I sicrhau rhwyddineb defnydd a chydweddoldeb, ni fydd gohebiaeth wedi’i hamgryptio yn cael ei hanfon atoch chi. Nid yw e-bost yn ddull hollol ddiogel o gyfathrebu. Er y byddwn ni bob amser yn ceisio amddiffyn ein systemau a’n gohebiaeth rhag firysau ac effeithiau niweidiol eraill, ni allwn ni warantu hyn.

5. Cwcis

(a) Mae “cwci” yn ffeil testun fechan y bydd gwefan yn ei gosod ar ddisg caled cyfrifiadur y sawl sy’n defnyddio’r wefan honno. Ceir sawl math o gwci.

(b) Mae’r cwcis rydym ni’n eu defnyddio yn “gwcis sesiwn”, sy’n olrhain y wybodaeth y byddwch chi wedi’i nodi neu wedi edrych arni wrthi i chi symud rhwng tudalennau’r Wefan. Ni fydd y cwcis hyn yn para’n hir a byddant yn diflannu o fewn ychydig ar ôl i chi adael y Wefan. Nid ydym ni’n defnyddio mathau eraill o gwcis sy’n olrhain eich gweithgarwch ar-lein ar ôl i chi adael y Wefan.

(c) Rydym ni’n defnyddio cwcis i ganfod pan fyddwch chi wedi mewngofnodi i’r Wefan, i weld sut byddwch chi’n gwylio’r Wefan a sut byddwch chi’n llywio’r wefan, ac i’n cynorthwyo ni i ddarparu’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig.

(ch) Fel arfer, bydd porwyr y rhyngrwyd yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Fodd bynnag, gellir gosod porwr rhyngrwyd i wrthod cwcis.

(d) Gallwch chi newid eich dewisiadau cwcis ar ei gwefan gan ddefnyddio’r botwm ‘gosodiadau cwcis’ yn ein baner hysbysiadau cwcis pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefan, i ddiffodd unrhyw gwcis y byddwch chi’n gwrthod cydsynio i ni eu defnyddio. Dylech gofio fod rhai cwcis yn ofynnol i sicrhau fod y Wefan yn gweithio’n iawn ac ni ellir diffodd y rhain, ac os nad ydych chi’n cydsynio y gellir defnyddio’r cwcis hyn, ni chewch chi ddefnyddio ein gwefan.

6. Eich hawliau i’ch gwybodaeth

(a) Mae’r gyfraith yn caniatáu i chi ofyn pa wybodaeth sydd gennym ni mewn perthynas â chi, a gallwch chi ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir.

Gallwch chi hefyd ofyn i’r wybodaeth honno gael ei dileu a gallwch chi ofyn i ni roi copi o’r wybodaeth i chi.

(b) Os ydych chi’n dymuno i ni gywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chi, e-bostiwch ni yn nerthdyben@outlook.com

(c) Gallwch chi hefyd ofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth – y ffordd symlaf o wneud hynny yw atal eich cydsyniad, a gallwch chi wneud hynny unrhyw bryd, naill ai trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar ddiwedd unrhyw gylchlythyr, neu trwy ein he-bostio ni yn nerthdyben@outlook.com