Roedd Nerth dy Ben yn bodoli fel syniad yn fy mhen i am beth amser cyn iddo ddod i fodolaeth, ers rhyw bedair mlynedd a dweud y gwir, ond dyna’r cwbl oedd o – ‘syniad’, breuddwyd.  Pa mor aml ‘da ni’n deud brawddegau fel ‘O ! ‘swn i’n licio gneud huna’ neu ‘swn i’n licio os faswn i’n gallu bod fel ‘na, neu ‘pa mor anhygoel fyddai gallu gneud….?’.  Ond yn aml iawn, yr unig beth sy’n ein stopio ni, ydy ni ein hunain.  Be achosodd i rywbeth oedd yn afrealistig yn fy mhen, fod yn rywbeth realistig?  Wel profiad reit erchyll o fod mewn damwain car go ddifrifol, ddoth allan o unlle – a wnaeth newid fy sefyllfa i, fy amgylchiadau, a fwy na dim, fy mhersbectif ac agwedd tuag at fywyd.  A dyna pryd newidiodd y ‘swn i’n licio gallu gneud…’ i ‘dwi am drio gneud…’.  Ac hefo cefnogaeth criw bendigedig o ffrindia’, dyma wireddu’r freuddwyd o ddod â Nerth dy Ben yn fyw.

Roedd cysyniad ‘nerth’ a ‘dylanwad y meddwl‘ wastad yn gwneud i mi ryfeddu, ac mae’n dal i fod.  Roeddwn i hefyd yn ymwybodol o bŵer ac effaith y llais negyddol yn fy mhen fy hun.  Ond wnes i erioed ddychmygu y baswn i’n gorfod dibynnu gymaint ar y nerth gadarnhaol yn fy mhen wrth i mi fyw o ddydd i ddydd, ac hefyd yr ymdrech mae’n ei gymryd i gadw y nerth yna’n gryf i fy nghynnal a’n nghario i dros ‘hurdles’ bach cymhleth bywyd a pha mor hanfodol ydi o.

Dwi di dysgu gymaint, a dwi’n dal i ddysgu am bŵer eithriadol y meddwl; y ffordd mae’n gallu effeithio a dylanwadu ar agweddau amrywiol ein bywydau o ddydd i ddydd, pa mor bwysig ydi o i mi fuddsoddi’r amser i gryfhau’r meddwl i allu delio hefo petha’ bach a mawr, ac yn y bôn, dysgu mai fy nghyfrifoldeb i yn unig ydy gwneud hynny (hefo help y pethau cywir sy’n bwysig i mi), a bod hynny’n ddigon… ac yn bosib (er gwaetha’ pa mor anodd ydi o weithia’, a faint o amser, disgyblaeth a chryfder meddyliol mae’n ei gymryd’ i’w weithredu!)

 

Troi y nerth negyddol yn nerth gadarnhaol

Does na’m dwy waith, mai’r llwybr naturiol mae fy meddwl i’n benderfynol o’i ddilyn mewn sefyllfaoedd gwahanol, ydy’r llwybr negyddol.  Mae persbectif a’r teimladau negyddol rhywsut wedi eu goleuo’n llawer fwy llachar, yn mynnu sylw yn fy mhen, ac yn dallu’r ochor ‘da’ a’r pethau cadarnhaol.  Mae’n anodd peidio canolbwyntio ar y gwendidau – be dani ddim wedi ei wneud.  Ond mi wnes i sylweddoli yn fuan iawn, y byddai cario ‘mlaen i edrych ar onestrwydd fy mywyd mewn ffordd negyddol yn cael effaith niweidiol iawn arna i.  Ac o orfod clywed ffeithiau anodd yn gyson, a gorfod wynebu rhwystrau gwahanol bob un dydd – fy her i ydy rhoi’r sbectol haul ymlaen, i beidio cael fy nallu, ac i’n ngalluogi i ganolbwyntio ar y ‘pro’s’ yn lle’r ‘con’s’.

Wrth gwrs , mae na betha’ da, cadarnhaol yn digwydd hefyd, jest bod fy mrên i yn penderfynu gwrando ar y petha’ ‘crap’ i gyd.  Mi wnes i sylweddoli mod i’n gyfrifol am fy hapusrwydd fy hun, a doeddwn i ddim yn gallu rheoli neb na dim byd arall – dim ond fy agwedd a fy meddylfryd i.

Dydi troi ‘llwybr meddwl’ negyddol (‘negative thought‘) i fod yn un cadarnhaol ddim yn hawdd pob tro, ond dwi wedi dysgu;

  1. Po fwya dwi’n ymarfer hyn, hawsa’n byd ma’n mynd.
  2. Fel unrhyw ‘habit’ newydd arall; mae cael sgwrs/cwestiynu y ‘thought’ hefo fi’n hun yn fy meddwl yn helpu’r broses, a holi; ‘Pa sail sydd yna i’r meddyliau câs? Ydy hynny’n wir go iawn?’
  3. Yn amlach na pheidio mae na ochor bositif, gwell, i bob un ‘meddwl’, jest ei fod o wedi cael ei orchuddio gan y gola’ llachar, negyddol.
  4. Os dw i ‘di blino ,neu wedi gorlwytho fy ymennydd, neu’n cario gormod o bwysau meddyliol, yna mae’n broses dipyn anoddach, am fod cryfder y cyhyr yn gwanhau.
  5. Wrth gwrs, tydi o ddim yn bosib  i chwilio am yr ochor dda, bositif, o hyd, a ma hynny’n ocê a dwi’n gadael i mi fy hun deimlo’r emosiwn. (Ma’ crio yn helpu fi weithia i ryddhau unrhyw densiwn – dwi’n gweld o fel y darn ‘cynhesu fyny’ sy’n bwysig i ni ei wneud cyn unrhyw ymarfer corff ‘intense’.)

 

Effaith y meddwl ar y corff

Un o’r gwersi pwysica’ dw i ‘di ei ddysgu (ac sy’n dal i fy rhyfeddu), ydy’r cysylltiad rhwng y meddwl a’r corff – heb os nac oni bai, o’m mhrofiad i, mae’r ddau beth yn mynd law yn llaw.

Mae fy stad meddyliol i’n bendant yn dylanwadu a’r sut dwi’n teimlo’n gorfforol – os dwi’n diodda’n feddyliol, yna, dwi’n teimlo’r boen corfforol yn fwy.  Os dwi’n gorfod meddwl a chanolbwyntio ar y boen dwi’n ei ddiodda’ yn fy nghorff, yna mae egni y boen hwnnw yn fwy.  Ond ar y llaw arall, mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd – pan dwi’n symud ac yn buddsoddi amser i ymarfer a chryfhau y corff, mae’n cryfhau fy meddwl, ac os ydw i’n cael diwrnod anodd neu deimlo’n isel, mae’r weithred o fynd i ‘neud gwaith physio neu fynd am dro yn lleddfu ‘chydig ar y teimladau negyddol, ac o ganlyniad dwi’n teimlo’n well.  Ac mae hyd yn oed y weithred o wenu wedi codi fy hwyliau, cyn heddiw.

Dwi’n credu’n gryf fod y corff yn ymateb yn well os ydy’r meddwl yn bositif, a dwi wedi cael profiadau lle mae triniaeth wedi bod yn fwy llwyddiannus am fy mod i yn llwyr gredu, heb amheuaeth fod y driniaeth am weithio.  Wrth gwrs, meddylfryd dwi’n ei ddefnyddio ydy hyn; tydy o ddim i bawb – ond dwi’n credu os ydw i’n gallu wynebu unrhyw beth hefo meddylfryd cryf a phositif, yna mae’r canlyniad yn mynd i fod yn fwy ffafriol i mi.

Dwi’n atgoffa’n hun o hyd mod i’n gorfod gwneud gwaith physio ac ymarferion corfforol dyddiol i gryfhau’r cyhyrau ac i wella anafiadau er mwyn gallu symud yn ddi-boen, ac mae o’n broses hir o ddyfalbarhau ac amynedd – a bod rhaid cofio bod yr ymennydd hefyd yn gyhyr, ac angen yr un ymdriniaeth a gofal er mwyn cryfhau.

Faswn i’n gallu siarad am y pwnc yma am dudalen arall, ond nai ddim eich diflasu chi!  Un peth dwi wedi‘i elwa o’m mhrofiad ydy – parch tragwyddol tuag at fy nghorff.  Oeddwn, ro’n i’n edrych a’r ôl fy hun cynt, ond doeddwn i’m wir yn cysidro pa mor anhygoel a chymleth ydy’n cyrff ni – yn addasu ac yn ein gwarchod ni trwy’r amser.  Y peth lleia’ medra i ei wneud rwan ydy bod yn glên, gwarchod a parchu fy nghorff – yn wahanol iawn i’r car – dyma’r unig un sydd gen i!

 

Dywediadau sy’n rhoi nerth

Ro’n i arfer darllen a mwynhau gweld dywediadau bach ar boster neu‘n addurn o gwmpas y lle. Rhai fel ‘Byw i’r foment’, ‘Un cam ar y tro’, ‘Life is tough, but so are you’, ac oni’n meddwl fy mod i’n eu credu ac yn eu dilyn  – ond doeddwn i ddim, ddim go iawn. Rwan, dwi’n gwybod be ma nhw wir yn ei  olygu, wrth gael gwers o ddysgu’r gwahaniaeth rhwng be’ ydy jest deud rhywbeth, a gwirioneddol gredu rhywbeth.

Mae cymryd un cam ar y tro wedi fy nghynnal i.  Mae byw i’r foment yn fy atgoffa i o hyd, i beidio cymryd dim byd yn ganiataol, ac mae her sefyllfaoedd anodd mewn bywyd yn sicr wedi amlygu y nerth a’r cryfder sydd ynof i, a dwi’n aml yn atgoffa fy hun o’r hyn dwi wedi medru ei gyflawni er mwyn imi gael ‘boost’ o egni a nerth pan dwi ei angen.  Mae’n hawdd iawn anghofio y pethau ‘da ni wedi llwyddo i’w wneud pan ‘da ni’n teimlo’n rhwystredig .

Bellach, mae’r dywediadau yma, yn sicr, yn cadw fy nerth meddyliol yn gryf.

Heb os nac oni bai, mae’r heriau a rhwystrau ‘da ni’n gorfod eu hwynebu yn anodd, a rhai ohonynt yn teimlo’n amhosib, ond dwi di dysgu fod gen i gryfder dyfnach; cryfder nad oeddwn i’n gwybod am ei fodolaeth tan oeddwn i wirioneddol ei angen.

Mae nerth a chariad teulu a ffrindiau, nerth cymuned cefn gwlad, nerth cerddoriaeth i gyd yn bethau sy’n cadw nerth fy mhen i’n gryf ond hefyd, mae’n rhoi’r hyder i mi gredu fod gen i’r nerth a’r gallu tu mewn i mi fy hun.

Os gwyddom ni, dim bwys be, bod gynno ni gryfder meddwl – digon i ddygymod â phethau amrywiol sy’n ein herio o ddydd i ddydd, fy ngobaith i ydy fod hynny’n rhoi nerth a hyder i bawb ohonom  fedru goroesi a dygymod, ac i ddefnyddio’n cryfderau fel medrwn ddathlu’n llwyddiannau!

Alaw Llwyd Owen