Does dim angen i fi ddweud fod y flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn heriol i bawb, ond mae taflu galar i mewn i’r potes wedi bod yn her ychwanegol i sawl un ohonan ni. Ar un wedd mi oedd y cyfnod clo yn ffordd reit dda o allu alaru- gan eich bod yn cael cau’r byd go iawn allan a ddim yn gorfod rhoi wyneb ymlaen wrth geisio ail gydio mewn bywyd. Mi oedden ni’n cael y cyfle yna i guddio adref ac i geisio mwytho ein briwiau. Ond ar y llaw arall mi oedd yn gwneud pethau llawer iawn gwaeth gan nad oedden ni’n cael cwmni a chefnogaeth teulu a ffrindiau ar amser mor unig a brawychus – roedden ni wir ar ben ein hunain- yn ein swigen o alar mewn byd oedd wedi troi ben ei waered ers ein colled ac yn parhau i gael ei chwalu oherwydd covid. Doedd dim byd yn normal yn ein bywydau ddim mwy- ble bynnag oedden ni’n edrych- boed adref neu tu allan- roedd popeth wedi newid.
Er fy mod yn weddol ifanc (!) mi dw i wedi bod mewn sawl sefyllfa erbyn hyn ble mae’r carped gwarcheidiol yna o dan fy nhraed wedi cael ei rwygo oddi tanof yn boenus o sydyn, ac o fewn munudau mae’r byd yn le gwahanol iawn. Oherwydd damweiniau erchyll aelodau’r teulu ble mae damweiniau wedi digwydd o fewn eiliadau a dim syniad gen i ar y pryd beth fyddai’r sefyllfa o fewn y funud nesaf heb sôn am y diwrnod nesaf – rydych yn dysgu’n sydyn iawn i beidio â chymryd bywyd yn ganiataol ac yr adeg hynny mae’n rhaid cael nerth arbennig yn feddyliol gan obeithio am y gorau ond disgwyl y gwaethaf.
Yna, pan mae’r gwaethaf yna yn digwydd mae’r ergyd yn un drom ac mae’r meddwl yn gallu mynd i bob math o lefydd a’r cwestiynu cyson yn llafurus. Mae galar yn rywbeth sy’n anodd i’w ddisgrifio gan fod pawb yn ceisio dygymod mewn ffyrdd mor wahanol, ond yn bendant yr un peth sydd ei angen ar bawb yw nerth a gwydnwch meddwl.
Un peth yr ydw i wedi gorfod ei ddysgu ydi i beidio â bod yn galed arna i fy hun- mae bywyd yn gallu bod yn hudolus, ond mae hefyd yn gallu bod yn boenus o anodd. Pan fydda i’n cael diwrnod caled wrth gofio am ryw atgof neu gysidro beth fyddai’r dyfodol wedi gallu edrych fel dwi’n teimlo ei bod yn hollol iawn cael diwrnod o grio, diwrnod o yfed paneidiau drwy’r dydd neu i gael nap yr un amser â’r ferch! Mae hi mor bwysig bod yn glên gyda chi’ch hun, i beidio â thrio bod yn rhywbeth nad ydach chi ddim ac i beidio â rhoi pwysau i deimlo’r naill ffordd neu’r llall. Byddwch yn driw i chi’ch hun.
Wedi dweud hynny, er ei fod wedi bod yn amhosibl ar adegau oherwydd y cyfyngiadau, mae cael ryw fath o rwtîn neu gael mynd i’r gwaith wedi bod o fudd enfawr gan fod rhaid i’r meddwl weithredu mewn ffordd wahanol ac mae’n gyfle i roi switsh off am gyfnod cyn dod yn ôl adre i’r realiti newydd.
Mi ydw i a’r gŵr yn grediniol fod y gwaith gyda’r ferch fach wedi ein cario ni yn ystod y flwyddyn diwethaf- y ferch gan ei bod hi, diolch byth, yn ddigon ifanc i beidio â deall ac yn fodlon ei byd. Mae hi wir yn codi calon- er nad yw magu plant yn fêl i gyd !! Mi allwn ni’n dau ddweud gyda’n llaw ar ein calonnau bod ein dyled i’r ferch yn enfawr gan ei bod wedi dangos gobaith tuag at y dyfodol a bod rhaid i fywyd fynd yn ei flaen.
O ran y gwaith- mae gorfod codi yn y bore a mynd i’r gwaith bob amser yn gwneud lles i feddwl rhywun- a diolch byth mi rydan ni’n dau yn wirioneddol mwynhau ein gwaith – er nad oes byth ddiwedd i waith ffermio na dysgu! Mae hi mor bwysig cael gwaith ble mae rhywun yn ei fwynhau a gwaith ble allwn ni fel unigolion wella ein hunain a thyfu.
Nerth arall sydd wedi bod o gymorth enfawr i mi ydi’r gallu i godi’r ffôn neu yrru neges os oes unrhyw beth yn fy mhoeni. Dwi’n du hwnt o ffodus o ffrindiau arbennig a theulu cefnogol ble alla i fwrw fy mol os oes rhywbeth yn fy mhoeni. Yn aml rhywbeth bach ydi’r broblem ond ar y pryd mae’n teimlo fel y broblem fwya erioed! Os nad ydwi’n ei gael allan mae’r broblem yn tyfu i fod yn un fawr ac mae un peth ar ben y llall yn cymryd lle yn fy meddwl. Felly mae hi’n hollbwysig i mi fy mod yn ei drafod ac yn cael persbectif rhywun arall arno- cyn iddo fwyta y tu mewn i mhen i!
Y nerth olaf sydd yn bwysig sôn amdano yw nerth positifrwydd y meddwl. Mae hi’n anodd iawn teimlo’n bositif wrth alaru, ac mae adegau ble mae’r meddwl yn negyddol iawn a’r hiraeth yn hollt boenus trwy’r galon- sut all rhywun fod yn bositif wrth wybod na fydd bywyd byth yr un peth eto? Sut all bywyd fod yn bositif heb gwmni y person arbennig yna byth eto? Pam fod hyn wedi gorfod digwydd i ni?
Beth sydd wedi dod yn glir yn ystod y flwyddyn diwethaf ydi fod pawb yn cael meddyliau negyddol- beth bynnag eu bywyd- er gwaethaf darluniau perffaith y gwefannau cymdeithasol! Y cyhyr cryfaf sydd gennym ni ydi’r meddwl- ond hefyd ein gelyn pennaf. Mae popeth yn dechrau gyda’r meddwl- beth bynnag ydan ni’n ei bweru yn y meddwl- mae’r pwer yna wedyn yn ein rheoli ni- os ydna ni’n gadael iddo. Ar ddiwedd y dydd naill ai fe allwn ni reoli’n meddwl- neu mi all y meddwl ein rheoli ni.
Un peth sydd wedi fy helpu ydi cael rhywbeth i edrych ymlaen ato, pethau bach fel y darn o siocled sydd yn aros amdana i gyda’r nos yn y ffrij ar ôl rhoi’r ferch yn y gwely i bethau mwy cyffrous dyddie yma fel cael mynd am swper gyda ffrindiau! Mae cael edrych ymlaen at rywbeth yn rhoi rhyw fath o hwb i rywun ac yn llenwi’r meddwl gyda phositifrwydd.
Er ei fod yn anodd mae mor bwysig ceisio troi ein meddylfryd i fod yn bositif a gweld y gorau yn beth sydd ‘dan ein traed ni a pheidio â busnesu gormod ar ddelwedd cymdogion. Y gwir amdani ydi fod gan pob un ohonan ni heriau- ac mae hi fyny i ni a nerth ein pennau ni i wneud y mwyaf o fywyd. Dyna beth fyddai’r rhai sydd wedi ein gadael ni eisiau i ni wneud- byw i’r awr, byw i’r dydd, byw i’r eitha yn llawn ffydd.
Heledd Glyn