Fel Mam i bump o blant, gwraig fferm ac yn rhedeg fy musnes fy hun, Popty Pen Uchaf mae ceisio cael balans rhwng pawb a phopeth yn gallu bod yn heriol. Ond, mae cadw meddwl positif a gweld y gorau ym mhob sefyllfa yn allweddol i mi.
Yn fy ngwaith mae diwrnodau hir a chaled iawn, ond gan mod i mor ffodus o griw hwyliog a hawdd i’w gwneud gyda hwy mae diwrnodau yn gwibio heibio. Yn bendant, un o’r pethau pwysicaf mewn bywyd yw gwneud eich gorau ond cael hwyl wrth wneud hynny. Rydw i’n lwcus iawn mod i yn edrych mlaen i gael mynd i’r gwaith, a gan fod y plant yn awr wedi tyfu i fyny dwi’n meddwl ei fod yn bwysig i mi gael fy mhrosiect fy hun.
O bersbectif gwraig fferm a mam mae bywyd yn brysur iawn, mae hi’n bwysig cael rhyw fath o drefn ar y diwrnod a byddaf yn mwynhau’r tymhorau amrywiol. Mae cael trafod a sgwrsio o gwmpas y bwrdd am faterion y dydd yn allweddol i mi gan ei fod yn gyfle i ddatrys problemau a thrafod gwaith y dydd.
O ran nerth fy mhen, mae bod ymysg personoliaethau positif yn gwneud byd o wahaniaeth ac yn dylanwadu ar bersbectif rhywun gan adlewyrchu ar sut mae rhywun yn teimlo. Un o’r pethau sy’n fy nghadw i fynd ydi cerddoriaeth neu gwmni radio yn y gwaith- yn enwedig pan fyddaf fy ar fy mhen fy hun, mae gwrando ar Tudur Owen yn donic!
Yn amlwg, dydi bywyd ddim yn hawdd bob tro ond mae cael yr agwedd gywir at fywyd yn gwneud byd o wahaniaeth ac yn cynnal nerth ein pennau.
Eleri Roberts