Wyddoch chi beth? Tyden ni fel bodau dynol yn bethe rhyfedd dudwch? Os de chi berchen ar gar- de ni gwybod be sy’ raid ei neud i ofalu amdano- ‘syrfis’ blynyddol, MOT, cadw llygad ar yr olew, gwirio teiars, neud yn siwr bo ne ddigon o betrol yn y tanc (ac os fatha fi, talu mecanic os oes rhaid agor y bonet!)
Ond pan ddaw hi’n amser i roi MOT ein hunain- efalle nad ydym cweit mor fanwl. Yn enwedig dynion! Mae rhai yn osgoi mynd at y meddyg fel y pla- gan adel i bryderon, boed rhai corfforol neu’n feddyliol lethu ac os na ofalwn amdanynt, waethygu a dirywio.
Ond mae ymagweddau bobl tuag at glwyfau corffol a rhai meddyliol yn ei hun yn anwastad.
Cyn ‘Dolig dwetha’, nes i dorri pen elin fy mraich wrth ddisgyn ffwr o fy meic. Faswn i wrth fy modd yn trio cyfiawnhau hyn wrth egluro mod i’n taranu lawr ryw elltydd ar gyflymdra mawr, ond na, blerwch fy hun wrth seiclo i Lanychan o’r cartref yn Rhuthun i gael hufen ia o’r Chilly Cow’ efo’r plant. Ta waeth- wrth wisgo sling roedd yn amlwg mod i wedi cael anffawd ac roedd yn destun sgwrs, pawb yn holi amdanaf a chael hwyl yn tynnu coes.
Ond pan mae trybini meddyliol yn ein llethu – a gall lethu unrhyw un ohonom, ar unrhyw adeg, ac nid yw’n gwahaniaethu rhwng hil, statws, oedran ac ati, mor anodd yw hi wedyn i drafod a sgwrsio. Pam? Mewn oes oleuedig y Millennials, pam fod y stigma yn parhau?
Y cwestiwn mawr ydi, a yw’r adegau o broblemau meddyliol yn rhan annatod ohonom? o’n personoliaeth? o’r llinyn arian genetig sy’n rhodd deuluol? Neu a yw’n effaith o ddigwyddiad penodol, o’n hamgylchfyd ac ati?
Dwi’n grediniol mai ryw gydbwysedd o’r ddau yw hyn. Gall ddigwyddiad difrifol megis colled, galar, damwain, dirywiad mewn iechyd corfforol, argyfwng teuluol, colli swydd, oll fod yn sbardun i’r isymwybod a’r gamp wedyn ydi sut yden ni’n ymateb.
Mae llawer o sôn wedi bod am gorbryder (anxiety) ac yn wir y twf mewn achosion, sy’n gysylltiedig â chyfnod y pandemig. Mae cyfrolau o waith ymchwil i’r cyflyrau ac at gyfeiriadau mai at gyflwr niwrolegol sydd wedi selio ar strategaethau bobl o ymdrin â sefyllfaoedd.
Gall gorbryder ymddangos mewn ystod eang o gyflyrau- megis trafferthion anadlu, panig, agoraffobia, gwrthod bwyta mond i enwi rhai.
O ran cryfder meddwl- dwi grediniol bo rhaid i ni oll dderbyn y cawn ddiwrnodau sydd well ac yn waeth na’i gilydd. Mae hyn yn gwbl naturiol. Rhaid cadw’r ffydd y daw dyddiau gwell, ac mae hi i lawr i feddylfryd personol, meddylfryd o dwf mae rhaid wynebu rhain.
Un modd effeithiol sy’n gweithio i mi ydi trio cadw’n heini ac ymarfer corff. (Cofiwch, gall hyn fod yn rhannol mod i bellach ynghanol fy mhedwardegau ac yn rhan o ‘midlife craisys!) Gyda phrysurdeb bywyd- fel pennaeth ysgol gynradd, fel gŵr a thad i dri o blant gall bywyd fod yn ‘brysur’ ond rhaid cadw persbectif a chadw ‘petrol yn y tanc’ fel petai. Wrth redeg, seiclo neu fynydda mae rhywun yn rhoi amser i’r meddwl, i arafu, byw yn y foment ac yna mae helbulon bywyd i’w gweld yn diflannu- hyd yn oed am gyfnod bach.
Mae’n newid persbectif ac os rywbeth yn rhoi amser i ddyn flaenoriaethu a gweld y darlun mawr.
Un o fy hoff lefydd i eistedd ac i amsugno awyr iach a gogoniant Dyffryn Clwyd yw ar ben Moel Fenlli, sef ail gopa uchaf cadwyn o Fryniau Clwyd sy’n tra-arglwyddiaethu’n dadol a gyda balchder dros dref Rhuthun. Wrth gyrraedd y copa a thywallt paned o goffi ac edrych allan dros y dyffryn ac yn bellach- hyd at fynyddoedd y Berwyn yn y gorllewin a’r Wyddfa a’r Criw yn y gogledd mae rhyw lonyddwch yn dod trosaf – balchder bro yn sicr, a hefyd rhyw deimlad o fod yn un efo natur. Gweld y gwerthfawrogiad mai rhan fechan, ond bwysig yden ni yn y darlun mawr
Yn naturiol hefyd- mae ymarfer y corff yn dda i’r galon- yn helpu pwmpio’r gwaed o gwmpas y corff- yn creu adrenalin ac yn rhyddhau endorffins positif! (Yr un fath i ryw raddau wrth futa Dairy Milk anferth o ran endorffins, ond lot llai o galorie!)
Agwedd arall sy bwysig iawn i mi o ran cadw’r meddwl yn iach ydi bod yn aelod o Gôr Rhuthun. Mae rhywbeth arbennig i fod yn aelod o gôr- y chwerthin, y cymdeithasu, y tynnu coes, ac wrth gwrs y canu! Does dim byd gwell na chlywed Robat Arwyn yn siarsio’r tenoriaid i ymdawelu gan nad yw’n clywed yr alaw gan y Sopranos! Pawb am y gorau yn eu morio- (‘Nenwedig Iwan Vaughan Evans a Philip Jonathon!)
Gwn fod sefyllfa pawb yn wahanol a does dim ffasiwn beth â ‘quick fix’. Y drwg ydi, ein bod fel pobol isio ateb heddiw, ddoe hyd yn oed.
Amser yw’r meddyg gore mae’n debyg- ond hefyd cael clust i wrando, i sgwrsio, i gael rhywun i ‘offlodio’ am ein helyntion. Mae bod yn glust i rywun arall yr un mor bwysig- y gallu i wrando, cysuro, cefnogi ,yn ei hun yn cryfhau’r iechyd meddwl. Mae gan bawb ei fys ar ei ddolur ei hun- ond drwy siarad, yn aml, gallwn werthfawrogi realiti sefyllfa.
A sôn am realiti- gweld bod angen bwcio’r car acw am ei MOT nesaf ‘Rhen Ffordyn nid yw’n ffynnu’-gwnewch yn siwr bo chi bwcio MOT i’ch hunain hefyd. Cam dros y trothwy, hanner y daith!
Er lles gwerin, rhaid cael llys agored.
Diolch am wrando.
Dyfan Phillips