Mae profiad pawb o’r pandemig wedi bod mor unigryw, a debyg fod pob un ohonom wedi wynebu cyfnod o wneud atgofion newydd yn ogystal â wynebu cyfnodau caled.

I fi, fe ddaeth y pandemig ar adeg o antur newydd wrth i mi gymhwyso a dechrau ar fy ngyrfa yn Ysbyty Gwynedd fel bydwraig. Bellach mae fy ngwaith wedi ei liwio yn ddyddiol gan Covid ond hawdd yw addasu erbyn hyn. Mae amrywiaeth o un shifft i’r llall a does dim posib rhagweld be ddaw o’r shifft dydd neu’r shifft nos wrth i mi gyrraedd Bangor. Gan amlaf mae’r gwaith yn llawn hapusrwydd a gobaith. Ar yr adegau hynny, mae’r gwaith yn bleser a’r cwmni yn hwyliog. Ond er gwaetha’r pleser, mae pob shifft yn dod i ben gyda blinder llethol.  Gallai hyn fod oherwydd y gofyn corfforol a ddaw o weithio shifft deuddeg awr, neu oherwydd bod gofynion swydd newydd yn fy ngorfodi i feddwl drwy’r amser… ac am oriau wedyn weithiau. Ar ddiwedd hynny i gyd mae dreifio o Fangor yn ôl am adre yn rhoi cyfle i mi feddwl am y shifft a rhoi cyfle i mi ‘switch off’ cyn cyrraedd adre. Yn aml ar y siwrne dwi’n sylwi cymaint dwi’n gwerthfawrogi fy nghydweithwyr. Y nhw sy’n gwneud y cyfnodau caled yn haws, yn rhoi gwên ar fy wyneb ac yn rhoi cysur i rywun pan fo genedigaeth wedi bod yn un heriol.

Y cwestiwn gan bawb yw ‘ydy hi’n anodd gwisgo masg am 12 awr?’ Erbyn hyn dwi’n anghofio fod y masg ar fy wyneb. I ni’r staff er bod newidiadau wedi bod i’n ffordd ni o weithio, mae’r gwaith yn debyg i beth oedd o gynt. I’r merched beichiog mae eu cyfnod beichiogrwydd nhw a’u profiad o fod yn yr ysbyty yn un hollol estron. Mae hi’n llawer caletach arnyn nhw rŵan a chymaint yn dweud eu bod yn ei weld yn anodd heb gwmni a chefnogaeth eu partner wrth eu hochr. Pan ddaw normalrwydd mi fydd hi’n braf gweld y rheolau i ymwelwyr yn yr ysbytai yn llacio.

Yn aml yn y gwaith fe dry’r sgwrs i drafod Covid a’r pandemig, ac mae ei hoel ar bob un ohonom. I fi, mae fy ffrindiau a theulu wedi bod yn fwy allweddol nag erioed. Ambell wythnos, bydd neges wedi’i hanfon at ffrind yn cwyno fy myd. Fel arfer does dim wedi newid o’r wythnos flaenorol ac erbyn yr wythnos wedyn dwi’n teimlo fel newydd eto. Naturiol ydi teimlo felly beryg. Dwi wedi gweld chwith mawr ar yr ochr gymdeithasol o beidio cael cymysgu gydag eraill, ac er mor handi ydi gwefannau cymdeithasol does dim yn curo bod efo rhywun wyneb yn wyneb. Mae hi cyn bwysiced ag erioed i fedru adnabod pryd mae pethe’n anodd a dod i ddarganfod beth sydd yn helpu wrth deimlo braidd yn ddigalon. I fi cymdeithasu, cerdded – bod allan yn yr awyr iach a choginio sy’n codi calon. Mae fy hoff dro yn mynd â fi i fyny o adre heibio fferm gyfagos at fynydd Moel Gasyth. Oddi yno mae golygfa odidog o Ddyffryn Clwyd hyd at yr arfordir. Yno caf fy atgoffa pa mor lwcus ydw i o gael byw mewn lle mor arbennig.

Rydw i hefyd yn mwynhau diwrnod yn gwneud dim. Weithiau does dim yn curo diwrnod diog ar y soffa yn gwylio teledu, beryg bod fy nheulu yn meddwl mod i’n gwneud llawer gormod o hynny! Mae’n bwysig weithiau cael diwrnodau felly, diwrnod i ddadflino a hel egni ar gyfer gweddill yr wythnos. O gael diwrnodau felly rwy’n sylweddoli pa mor lwcus ydw i’n cael gwneud fel liciaf i, o fewn rheswm! Does dim cywilydd weithiau o gael seibiant i ddadflino.

Mae gweld y gwanwyn ar ei ffordd yn rhoi gobaith i mi ac mae’r tywydd braf rydym wedi ei gael yn ddiweddar wedi codi fy hwyliau. Mae’r misoedd diwethaf wedi gwneud i mi werthfawrogi fy nheulu a lle dwi’n byw yn fwy nag erioed. Mae bod yng nghefn gwlad Cymru yn rhoi rhyw ryddid ychwanegol i ni yn hyn i gyd, ac mae’n fraint byw mewn lle mor hardd. Wrth i’r rheolau lacio rwan mi fydd hi mor braf cael dechrau cymysgu eto yn araf bach. Mae ystyr newydd i obaith y gwanwyn eleni.

 

Elan Pierce