Hunan-amheuaeth

Dim ots ar ba lefel rydych chi’n cystadlu, mi ddaw hunanamheuaeth yn rhan o fywyd pob athletwraig yn ei dro. I blentyn yn rhedeg ras mewn mabolgampau ysgol ar gaeau Pentrefoelas, i chwaraewraig rygbi rhyngwladol yn wynebu Seland Newydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd ym Mharis. Mi ddaw yr amheuon hyn mewn sawl ffordd, ac mae’n normal i athletwraig gwestiynu ei hun….

  1. Ydw i wedi ymarfer yn ddigon caled?
  2. Ydw i wedi rhoi popeth?
  3. Beth os nad yw fy ffitrwydd yn ddigon da?
  4. Beth os wna i adael pobl lawr?
  5. Beth os wna i siomi fy nghyd-chwaraewyr, yr hyfforddwr…a fi fy hun?
  6. Ydw i’n ddigon da?

Coeliwch neu beidio, nid yw’r teimladau uchod yn ddrwg i gyd, mae’r ofn a phryder o fethu weithiau yn rhoi’r nerth i lwyddo, a’r cryfder i fynd gam ymhellach. Y peth pwysig i gofio yw mai CHI sy’n rheoli’r temladau hyn, a CHI hefyd sydd yn nodi’r teimladau negatif am ddim rheswm. Fyddwn i ddim yn gwisgo’r crys coch, ac yn barod i gamu mewn stadiwm enfawr ym Mharis i chwarae yn erbyn y crysau duon, y cewri o Seland Newydd os na fyddwn i’n ddigon da.

Rheoli’r Meddylfryd 

Alla i ddim disgrifio faint o ‘ups’ and ‘downs’ sydd mewn bywyd chwaraewraig rygbi, neu unrhyw athletwraig mewn chwaraeon. Esiamplau o’r ‘ups’ fyddai;

  1. Fy nghap cyntaf dros Gymru, gyda’r teulu i gyd yno (2013)
  2. Sgorio cais agoriadol a churo Ffrainc am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd (2015)
  3. Curo Lloegr mewn gêm 6 gwlad, a hwythau yn enillwyr Cwpan y Byd y flwyddyn flaenorol (2015)
  4. Seren y gêm yn erbyn yr Eidal (6 Gwlad – 2017)
  5. Yr anrhydedd o gael fy newis i dîm y Barbariaid, yn gwisgo hosan Nant Conwy, ac yn camu i’r Stadiwm Principality i wynebu Cymru…a sgorio cais! (2019)

 

Ond hefyd mae amseroedd anodd…a’r rhain sydd weithiau yn anodd eu hanghofio neu eu dileu o’r cof;

  1. Cael fy ngadael allan o’r sgwad sawl tro
  2. Ddim cael fy newis gan mod i’n chwarae i glwb draw yn Lloegr
  3. Hyfforddwr yn dweud nad oeddwn i ddigon cyflym, digon siarp, ddim mewn siâp ac angen colli pwysau
  4. Colli cyd-chwaraewraig Cymru mewn damwain car, rhwng dwy gêm 6 gwlad, a gorfod cario ‘mlaen trwy’r cwbl
  5. Anaf, allan am flwyddyn, methu cyfle i chwarae yn Ngemau’r Gymanwald yn Awstralia

Cadw’n Bositif

Ond, dwi’n berson lwcus ofandwy…am ryw reswm, ac allai ddim esbonio sut, ond mi fydda i pob amser yn edrych ar yr ochr bositif. Hyd yn oed gyda’r anaf, roedd gen i gryfder a nerth meddyliol, roedd pob diwrnod yn arwydd o ddatblygiad;

  • Y boen yn araf ddiflannu
  • Roeddwn i’n gallu rhoi ychydig o bwysau ar y droed
  • Roeddwn i’n dod i arfer gyda’r baglau
  • Apwyntiad wythnos nesaf a falle siawns i gael y cast i ffwrdd
  • Camau bach

Rhywbeth sydd wedi aros yn y cof o’r dyddiau rygbi, yw wynebu Lloegr pan aeth y merched yn broffesiynol. Deffro y diwrnod hwnnw, yn edrych ymlaen am gêm gorfforol, a pha well gêm rygbi na wynebu’r Saeson. Ond, roedd awyrgylch y sgwad yn wahanol, roedd y merched yn nerfus, yn ddi-hyder, yn wan…pam eu bod nhw’n teimlo felly? Heb gamu ar y cae, roedd y merched yn actio fel methiant….beth oedd pwynt camu ar y cae os oedd eich meddwl yn dweud eich bod wedi colli cyn cychwyn. Roedd yr awyrgylch negatif yn amlwg, roedd yn fyw yn yr ystafelloedd newid, ac er gwaethaf fy ymdrech i godi hyder…roedd hi’n rhy hwyr, allwn i ddim newid meddylfryd sgwad cyfan mewn cwpwl o oriau, eu cyfrifoldeb nhw, a chyfrifioldeb bersonol yw rheoli’r cryfder a’r nerth meddyliol.

Dwi’n ymwybodol bod pawb yn wahanol, ond dwi’n cyfri fy hun yn lwcus iawn i gael meddylfryd bositif trwy’r amser, hyd yn oed pan mae popeth yn mynd o chwith…mae gen i’r cryfder a’r nerth, ac mi fydda i wastad yn ailadrodd…

‘ Mae yna bethau gwaeth yn digwydd.’

‘ Mae yna bobl mewn sefyllfa llawer gwaeth.’

‘Dyw hi ddim yn ddiwedd y byd.’ 

Pan fydda i’n edrych yn ôl ar fy ngyrfa rygbi, dwi’n lwcus iawn i allu rheoli’r holl atgofion, a’r atgofion hynny yw’r atogofion melys, yr atgofion gwethfawr a’r rhai bythgofiadwy.

Adeiladwch feddylfryd gryf, a bydd y corff yn dilyn.

Dyddgu Hywel

Cyn-chwaraewraig Rygbi Cymru