Mae esgeuluso (overlook) iechyd a chryfder ein meddyliau ni o dro i dro yn rhywbeth ‘da ni gyd yn euog o’i wneud. Dwi’n meddwl fod hi’n hawdd datgysylltu’ch hunain o’r geiriau ‘iechyd meddwl’, yn enwedig os ydi rhywun yn buddsoddi yn y stigma fod iechyd meddwl yn rhywbeth negyddol. Ond y gwir ydi, ma’ iechyd a chryfder meddwl yn berthnasol i ni gyd, ac mae hi’n bwysig ein bod ni’n cadw’r meddwl yn iach ac yn gry’, yn ogystal a’r corff, achos ‘ma cryfder meddwl yn medru bod yn rhywbeth hollol anhygoel.  

Dydi hynny ddim yn hawdd bob amser wrth gwrs. Da ni gyd yn cael dyddiau diog a chynhyrchiol, rhai da a rhai drwg, ond yn ddiweddar dwi ‘di sylweddoli fod hi’n bwysig i ni dderbyn hynny, a gwerthfawrogi’r nerth ‘na sydd gennyn ni gyd i ymdopi efo pethau o ddydd i ddydd, dim ots pa mor fach, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol ‘da ni gyd wedi’i wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mi ydw i, fel llawer ohonoch chi, dwi’n siŵr, wedi gweld hi’n anodd dod o hyd i rhyw gymhelliant yn ystod y amser yma. Rhywbeth i ngyrru i ‘mlaen mewn cyfnod sy’n teimlo’n mor ddiddiwedd. Ond rhywsut, mi gario’n ni gyd ymlaen yn rhyfeddol, gan ddangos cryfder aruthrol wrth addasu at fyw bywyd mewn ffordd gwbl ddiarth.  

Rhyw ddeufis yn ôl fues i’n ddigon ffodus i dderbyn aren gan fy mrawd i, Morgan. Mae gen i glefyd arennol cronig ers i mi fod yn dair oed, ac felly o ganlyniad i ddirywiad fy aren dros y blynyddoedd roedd angen aren newydd arna i . Tydi hynny heb fod yn hawdd bob amser. Roedd hi’n haws anwybyddu’r peth yn nghanol prysurdeb bywyd arferol, ond daeth y cyfnod clo a ambell i fwgan at y drws.  

Oni bai am ohirio llawdriniaethau yn y cyfnod clo cyntaf o ganlyniad i Covid 19, roeddwn i fod i dderbyn y llawdriniaeth ddiwedd Mis Awst 2020. Roedd ‘na gynllun yn ei le yn fy mhen. Er mor frawychus oedd wynebu’r realiti o drawsblaniad, roedd cael plan o rhyw fath yn rhoi strwythur i’r holl beth, ag ella, yn ei wneud yn haws i’w wynebu. Aeth y misoedd heibio ac fe ddaeth hi’n eithaf amlwg fod y trawsblaniad ddim yn mynd yn ei flaen ym mis Awst. Roedd pethau’n mor ansicr, ac ar ben hynny, doeddwn i ddim yn teimlo’n hanner da. Ro’n i’n ffeindio hi’n anodd dod o hyd i’r egni i wneud dim. Roeddwn i’n gosod targedau a chreu ‘to do lists’, ac yn teimlo’n rybish ar ddiwedd bob diwrnod am mod i heb gwblhau hanner y pethau oeddwn i eisiau eu cyflawni. Roedd hi’n anodd peidio mynd i deimlo’n unig, yn ynysig. Mae hi’n haws peidio gofyn am help weithiau, ond dim ots pa mor gryf yda’ chi’n feddyliol, ma’ gan pawb yr angen ‘ne am gefnogaeth rywdro neu’i gilydd. I fod yn gwbl onest, ma’ derbyn mod i angen y gefnogaeth ‘na yn anodd weithiau, ond dwi’n lwcus tu hwnt o’r ffrindiau arbennig sydd gen i. Fyddai’n ddiolchgar am byth am eu cefnogaeth diddiwedd dros y flwyddyn diwethaf. Diolch byth am dechnoleg! 

Ar ôl y trawsblaniad, dwi’n medru myfyrio a dod i ddeall y math o gryfder a ddefnyddiais yn ystod fy ngwellhad. Roedd yr amser a dreuliais yn yr ysbyty yn anodd, yn enwedig am nad oedd neb yn cael dod i’n gweld ni. Roeddwn i mewn gymaint o boen, ac ar ben hynny ges i post op pneumonia. Pan ‘da chi’n teimlo mor sâl a hynny, mae hi’n anodd dychmygu gwella. Pan o’dd fy nghorff i’n teimlo’n mor wan, roedd angen i mi alw ar gryfder meddyliol. Credu mod i’n mynd i wella, er nad oedd hi’n teimlo felly. Dwi’n cofio gofyn i nyrs roi help llaw i mi eistedd i fyny yn y gadair yn y dyddiau cyntaf, ac erbyn diwedd yr wythnos roeddwn i’n gofyn os ga’i drio cerdded ychydig. Roeddwn i bron marw isio cyrraedd adra, rhoi hyg enfawr i Mam a mrodyr i, amgylchynu fy hun gyda’r bobl dwi’n garu. Doeddwn i’m yn cael mynd adra nes i mi ddangos mod i’n medru cerdded. Nes i  ddibynnu ar y cymhelliant ‘na i ngwthio i. ‘Odd ‘y nghorff i’n dweud wrtha i fod o’n mynd i fod yn anodd, felly roedd raid i fy meddwl i ddweud wrtha i mod i’n medru’i wneud o.  

Mae’r flwyddyn ddiwethaf ‘ma ‘di dangos i mi fod dathlu’r pethau bach ‘na yn bwysig. Ti ‘di codi’n gynnar heddiw? Da iawn! Wyt ti ‘di newid o dy byjamas? ffab! Wyt ti’n gweithio o adra? amazing! Ges di ddiwrnod diog yn ystod yr holl firi ma? Lyfli! Achos ma’ hynny’n hollol iawn ‘fyd.  

Dwi ‘di dysgu i werthfawrogi y pethau bach ‘ma dwi wedi’u cyflawni, dysgu i osod targedau realistig i fi’n hun, dysgu fod teimlo yn crap am neud dim byd yn oce weithiau fyd, achos ma’ hynny jyst yn naturiol. Am wan, efo ansicrwydd dal i fod yn yr aer, dwi jyst yn mynd i drio cymryd bob dydd fel mae’n dod 

 

Mali Elwy