Digon hawdd fyddai i ni i gyd edrych yn ôl ar y flwyddyn 2020 a meddwl am flwyddyn ofnadwy. Blwyddyn i’w anghofio. Yn sicr buaswn i’n gallu dweud hynny. Collais aelod agos o fy nheulu, ffrind gorau, a phrofi gwir ystyr galar a hiraeth am y tro cyntaf, a hynny cyn i Corona fod yn ddim ond lager i mi. Mis yn ddiweddarach daeth y cyfnod clo ac erchyllterau’r feirws ‘ma. Ninnau hefo dim byd i edrych ymlaen ato,  dim cymdeithasu, popeth wedi ei ohirio. Dim sioe. Dim steddfod. Dau uchafbwynt bob blwyddyn ers i mi gael fy ngeni yn diflannu dros nos. Yna, ym mis Medi symud i fyw i Benrhyn-Coch a chychwyn fy swydd gyntaf fel athrawes mewn ysgol uwchradd. Ysgol newydd mewn ardal newydd,  ddieithr. Gorfod ymdopi â dysgu o bell, dysgu dan fwgan y feirws, y cyfarfodydd a’r cyrsiau i gyd ar-lein. Bywyd i gyd ar-lein. Ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf, yn teimlo’n unig ar brydiau, ac yn hiraethu am deulu, ffrindiau a Dyffryn Clwyd.

Ond er gwaethaf hyn i gyd, roedd 2020 yn flwyddyn dda. Ces i amser i fod adre ar y ffarm gyda fy nheulu, sydd ddim yn fêl i gyd os mai chi yw’r plentyn hynaf o bump! Fel y gwyddoch, mae bywyd ar ffarm yn fywyd prysur iawn a da o beth oedd hynny yng nghanol pandemig. Tra roedd rhan fwyaf o’r wlad yn dod i stop, roedd rhaid dal ati i ffarmio. Ffarm laeth sydd gennym ym Mhen y Bryn a threuliaf lawer o fy amser yn y parlwr godro. Does dim yn well i glirio’r meddwl na sgwrs fach gyda’r Holsteins!

Nid yn unig i’r parlwr fydda i’n dianc i gael llonydd ond i Fryniau Clwyd. Mae gennym amrywiaeth o lwybrau cerdded bendigedig ar garreg y drws, felly roeddwn yn gallu dianc i Ben Y Cloddiau heb dorri’r un rheol Corona! Does dim yn well i’r enaid gael llonydd na mynd i Ben Y Cloddiau, a gwerthfawrogi’r golygfeydd godidog o Langollen draw i Fae Colwyn a thro pedol i Lerpwl a thu draw.

Ond yn amlwg, nid treulio amser gyda’r anifeiliaid neu yn crwydro ar ben fy hun yw’r tonic gorau bob amser. I sicrhau meddwl iach rhaid cael cydbwysedd. Fel athrawes Gwyddoniaeth, gwyddwn yn rhy dda fod y system nerfol yn system gymhleth a bregus iawn, gyda’r ymennydd yn rheoli’r llyw. Yn y system mae cyfres o gemegau nerfol, ac mae cydbwysedd o’r cemegau hyn yn allweddol, yn union fel mae cael cydbwysedd cywir o fod ar eich pen eich hun neu yng nghwmni eraill yn bwysig.

Er bod amseru dechrau swydd newydd mewn ardal newydd wedi bod yn heriol, prin iawn mewn gwirionedd oedd yr adegau pan deimlais yn unig gan fod pawb mor gyfeillgar, gofalgar a chefnogol. Roeddwn bob amser yn edrych ymlaen at fynd am dro gyda chyd athrawon ar ddiwedd diwrnod ysgol, a chael siocled poeth a chacen unwaith yr wythnos. Mor bwysig cael “bach o bach o hwne!” Mor braf oedd cael rhywbeth bach fel hyn i edrych ymlaen ato. Gwynt y môr yn fy ngwallt, cael chwerthin a dadansoddi profiadau a heriau’r diwrnod tra roedd yr haul yn machlud. Dwi’n ffodus iawn bod gen i ffrindiau oes yn Aber ac mi fyddai’r cyfnod wedi bod yn dipyn anoddach hebddynt.

Rhaid edrych ar 2020 yn bositif. Mae’r profiadau ges i yn y cyfnod wedi fy ngwneud yn berson cryfach yn feddyliol ac yn gorfforol. A dyna i mi ydi ‘nerth dy ben’. Trawsnewid rhywbeth negyddol yn bositif, trawsnewid galar yn llawenydd, trawsnewid methiant yn llwyddiant. Edrych ar fywyd yn optimistaidd. Yn hytrach na meddwl am ffyrdd o osgoi ‘iechyd meddwl’, dylen ni i gyd feddwl am ffyrdd bob diwrnod i sicrhau ‘meddwl iach’, a chofio, i bob machlud mae ‘na wawr!