Fel therapydd, rwy’n ymgysylltu â’m cleientiaid o’r safbwynt bod eu byd emosiynol yn brofiad corffedig (embodied). Er bod hwn yn ddealltwriaeth sydd, hyd yn ddiweddar, wedi’i gysylltu’n bennaf â mathau amgen o gymorth iechyd meddwl, mae tystiolaeth wyddonol gynyddol bwysig nad oes modd gwahanu’r corff a’r meddwl. Beth ydan ni’n ei olygu felly wrth sôn am ‘brofiad corffedig’?
Wel, yn syml, mae emosiynau yn bodoli yn y corff. Maent yn digwydd ac yn cael eu teimlo trwy’r corff. Ac felly, drwy gymryd rhan mewn ymarferion ‘corffedig’ gallwn gryfhau ein gwydnwch a chreu ffyrdd ystyrlon a chynaliadwy o ofalu amdanon ni ein hunain.
“Mae ymchwil mewn niwrowyddoniaeth yn dangos mai’r unig ffordd rydyn ni’n gallu newid y ffordd rydyn ni’n teimlo yw drwy fod yn ymwybodol o’n profiadau mewnol a dysgu i ymddwyn yn gyfeillgar tuag at yr hyn sy’n digwydd y tu fewn i ni.”
― Bessel A. van der Kolk, The Body Keeps the Score: Brain, Mind, and Body in the Healing of Trauma
Mae’r niwrowyddonydd Bessel A. van der Kolk yn tynnu sylw at bwysigrwydd hunanymwybyddiaeth gorfforol fel ffordd o ofalu amdanon ni ein hunain. Ac rydym ni, yn rhannol, yn gwybod hyn! Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n teimlo ychydig yn well os ydyn ni’n symud, mynd am dro, gwneud rhywfaint o ymarfer corff, hyd yn oed dawnsio dipyn bach (does dim angen bod yn ddawnsiwr da gyda llaw!) Fodd bynnag, mae’r arferion hyn yn dod yn wirioneddol yn rhan o hunanofal, pan allwn ni gysylltu â’r hyn yr ydym yn ei deimlo trwy wneud y pethau hyn.
Gallwn ddechrau gwneud hyn trwy ymarfer sylwi ble yn y corff rydan ni’n teimlo ein hemosiynau. Mae iaith eisoes yn ein helpu gyda hyn. Rydyn ni fel arfer yn teimlo’n ddigalon yn y galon. Pan rydyn ni’n teimlo’n nerfus rydyn ni’n cael pilipalod yn y bol. Mae’r rhain yn synhwyrau ac yn emosiynau y gall pob un ohonom eu deall fel syniadau ac fel teimladau corfforol. Y cam cyntaf felly yw anelu ein sylw at y teimladau yn y corff. Weithiau gall fod yn ddigon dim ond i gydnabod sut rydyn ni’n teimlo – weithiau mae’n rhoi eiliad fach i ni wrando arnon ni ein hun a rhoi sylw i ni’n hunain. Ac weithiau, trwy’r gwrando hwn, gallwn diwnio i mewn i’r hyn a fyddai yn ein helpu ar yr eiliad benodol honno. Os nad yw’r arfer hyn o sylwi yn dod ag ateb clir i ni, mae hynny’n iawn hefyd: mae’n gyhyr – mae’n cymryd amser ac ymarfer i gryfhau.
Mae yna dri cham a all ein helpu i diwnio mewn i’n byd emosiynol corffedig, sef, cydnabod, caniatau, a bod yn garedig. Mae cymryd yr amser i gydnabod beth mae rhywun yn ei deimlo yn y corff, hyd yn oed am funud neu ddau, yn gallu cael effaith mawr ar gryfau ein arferion o hunanofal. Mae caniatau i chi’ch hun deimlo’r teimladau sy’n dod i’r wyneb yn gam arall tuag at dderbyn a datblygu yn emosiynol. Mae caredigrwydd yn hanfodol ond hefyd yn anodd i anelu tuag aton ni ein hunain. Eto, gydag ymarfer, mae’r camau hyn yn dod yn haws.
Rydw i’n eich gwahodd chi i gymryd yr awgrymiadau hyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer gwneud eich ymarfer hunanofal corffedig eich hun. Dewch o hyd i amser yn ystod y dydd i ‘checio’ mewn. O’r fan honno, beth bynnag y penderfynwch ei wneud, rhedeg marathon neu fynd am dro bach, byddwch yn gweithredu o le rydych yn cysylltu â fe yn well a man mwy caredig.
Matilda Tonkin Wells