Dyma rhai o brosiectau cyffrous Nerth dy Ben hyd yma.
Ein Gwaith
Podlediadau Nerth dy Ben
Byw ar dy ora’ ydi podlediad diweddaraf Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny (os ydio o gwbl)?
Alaw, ein sylfaenydd, sydd yn chwilio am yr atebion trwy gael sgyrsiau gonest, hwyliog ac annisgwyl efo cymeriadau lliwgar o bob cwr o Gymru.
Mae’r holl benodau ar gael ar y platfformau digidol arferol.
Gweithdai
Sesiynau llawn egni a nerth sy’n atgyfnerthu ac yn ein hatgoffa o’r ymdeimlad o nerth a chryfder ynddom.
Cyfle i griw ddod at eu gilydd i archwilio ein syniadaeth ni o be ydy cryfder, cwestiynu sut mae nerth yn cael ei arddangos ym mywyd bob dydd heddiw, a sgwrsio am ffyrdd o allu defnyddio a chysidro ein cryfderau fel arf manteisiol wrth fynd o ddydd i ddydd.
Hyd yma rydym wedi gallu cynnig y gweithdai yma i ysgolion,
busnesau ac i grwpiau o fewn y gymuned.
Celf Byw i'r Dydd
Comisiynwyd artisitiaid lleol i greu darnau celf i gyd fynd efo ein sengl ‘Byw i’r dydd’.
Mae rhain ar gael i’w prynu yn ein siop Etsy
– cliciwch ar y logo Etsy i fynd i’r siop.
Set o 3 print gan
Mirian Graphic Designer
(£12)
Print Lino o Ddyffryn Aled
gan Celf Mari Hughes
(£20)
Gwaith celf allan o bapur
gan Dawnbach
(*wedi gwerthu)
Digwyddiadau
Hyd yma, dan ni wedi cynnal dau ddigwyddiad, y cyntaf yn cael ei ffrydio’n fyw ar Facebook ac yna daeth y cyfle i gynnal ein digwyddiad byw cyntaf ym mis Ebrill 2023 –
- Dau fyd, dau athletwr, un nerth – Gorffennaf 2021
- Crydfer mewn Comedi – Ebrill 2023
Sengl Byw i'r Dydd
Cyfansoddwyd ‘Byw i’r Dydd’ gan Rhydian Meilir, gyda’r fideo
a’r animeiddio wedi ei greu gan y talentog Morgan Elwy.
Mae’n gyfanwaith sy’n cynrychioli ymgyrch ‘Nerth Dy Ben’
a’i fwriad o atgoffa’n gilydd o’n nerth a’n cryfderau,
a’r hyn dan ni’n gallu ei gyflawni.
Drwy leisiau arbennig Dan Lloyd, Mared Williams, Jacob Elwy,
Celyn Cartwright, Arwel Gildas a Chôr Aelwyd Dyffryn Clwyd
a gwaith medrus Mei Gwynedd, mae hi’n gan berffaith i roi gwên fach
i’r wyneb ac ychydig o nerth i’ch diwrnod chi.

















