Llywela Edwards
Mae cryfder meddwl yn beth pwysig ym mhob agwedd o fywyd am wn i, er nad ydw i wedi meddwl am y peth yn gall tan mynd ati i ysgrifennu’r blog yma. Mae’n siwr bod cryfder meddwl yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i lawer heb i ni sylweddoli. Y gwir amdani ydi, mae codi’n fuan yn y bore pan mae’r cloc larwm yn canu yn fath o gryfder meddyliol, (achos dwi’n siŵr byse lot yn cytuno bod y botwm ‘snooze’ wedi cael ei hitio fwy nag unwaith ar sawl achlysur!) Dyma’r math o gryfder meddyliol deni i gyd yn ei ddefnyddio yn ddyddiol dwi’n siŵr.
Mae rhai adegau fodd bynnag ble mae’n rhaid ymdrechu’n galetach i ganfod y cryfder meddyliol i wneud rhywbeth. Pan yn y Brifysgol, roeddwn yn chwarae pêl-droed i’r tîm cyntaf, ac yn gapten yn fy mlwyddyn olaf. Roeddem yn ymarfer am ddwy awr a hanner ar nos Lun; chwarae gêm ar ddydd Mercher; ymarfer am awr ar nos Iau; mynd i’r ‘gym’ am awr ar fore Gwener; a gêm 5-bob-ochr ar ddydd Sadwrn. Wrth restru rhain fel hyn, roedd llawer o fy amser ac ymdrech yn mynd ar bêl-droed. Yn aml ar nos Iau oer a gwlyb, fy stumog dal yn stryglo ar ôl bod allan y noson gynt, doeddwn i wir ddim isio codi o’r soffa clyd i fynd i gicio pêl. Ond, gan amlaf, roeddwn yn gwneud. Wrth feddwl am y peth rwan, dwy frawddeg dwi’n ddweud wrth fy hun yn aml fel cymhelliant i wneud rhywbeth ydi:
‘fydda i’n teimlo’n well ar ôl bod’.
‘dwi’n fwy tebygol o ddifaru peidio mynd na difaru mynd’.
Mae’r ddwy frawddeg yma bron bob amser yn dod yn wir. Ar ôl ymdrechu a mynd i’r sesiwn ymarfer ar y nos Iau oer a gwlyb honno ganol Rhagfyr, roeddwn yn teimlo gymaint gwell yno fi fy hun. Yn gyntaf, roedd yr ‘hangover’ wedi mynd; yn ail, roeddwn wedi cael awyr iach a chwerthin efo fy mêts; ac yn drydydd, dwi’n gwybod y byswn i wedi difaru peidio mynd achos mi fyswn i wedi colli allan ar yr hwyl.
Rhywbeth arall ‘dwi’n gorfod atgoffa fy hun yn aml wrth chwarae pêl-droed ydi:
‘peidio mynd mewn i gêm yn meddwl ein bod ni’n mynd i golli’.
Rhaid cael hyder personol yn ogystal â hyder yng ngallu’r tîm i ennill y gêm, ac mae’r feddylfryd yma mor bwysig. Mae mynd mewn i gêm yn rhy negyddol yn ei gwneud hi’n anodd i mi chwarae fy ngorau. Ond trwy fynd mewn i’r gêm gyda’r feddylfryd fy mod am roi 100% mewn i bob tacl, pob peniad, a phob ergyd, dwi’n hyderus fy mod am berfformio’n well. Rhaid i mi gyfadde, roeddem yn colli gemau yn amlach nag oeddem yn eu hennill nhw, ond o leiaf roeddem yn colli yn gwybod ein bod wedi chwarae ein gorau fel tîm, ac roeddwn yn gwybod fy mod wedi gwneud fy ngorau ar y cae.
Roedd hi weithiau yn anodd cadw agwedd bositif ar ôl colli sawl gêm yn olynol, ond mae fy nghariad at y gêm yn bwysicach nac ennill. Mae bod gyda fy ffrindiau ar y cae, gyda’r bêl gron wrth fy nhraed, yn deimlad fydda i’n ei thrysori am byth, waeth be oedd y sgôr. Dyma’r teimlad dwi’n ei ddefnyddio i fy ngyrru mlaen i ddal i chwarae.
Wedi meddwl, mae’r cryfder meddwl dwi’n ei ddefnyddio wrth chwarae pêl-droed yn cael ei ddefnyddio yn fy mywyd pob dydd hefyd. Os dwi ddim ffansi mynd i noson clwb ffermwyr ifanc ar ryw nos lun oeraidd, dwi’n dweud wrth fy hun, ‘fyddai’n teimlo’n well ar ôl bod’, ac yn amlach na pheidio, mi ydw i’n teimlo gymaint hapusach ar ôl bod. Yn yr un modd, mae’n fwy tebygol y gwnâi ddifaru peidio rhoi fy enw lawr i fod yn rhan o gôr na difaru gwneud hynny. Dwi bob amser yn mwynhau, a mor falch fy mod wedi gwthio fy hun i wneud rhywbeth nad oeddwn bob amser eisiau ei wneud.
Gellir hefyd newid y frawddeg ‘peidio mynd mewn i gêm yn meddwl ein bod ni’n mynd i golli’ i: ‘peidio deffro yn y bore yn meddwl ei bod am fod yn ddiwrnod gwael,’ neu ‘peidio mynychu noson yn meddwl ei bod am fod yn noson wael’.
Dyma’r pethau dwi’n ceisio atgoffa fy hun bob amser, nid yn unig wrth chwarae pêl-droed, ond ym mhob agwedd o fy mywyd. Trwy wthio ein hunain a mynd mewn i unrhyw ddigwyddiad yn meddwl ein bod ni’n mynd i ennill, gallwn ddal ein pen yn uchel a hyderus ein bod wedi trio ein gorau, waeth beth fydd y canlyniad. Mae geiriau’r rheolwr enwog, Mr Arthur Picton, mor berthnasol i mi wrth fyw fy mywyd:
‘rhowch ‘hell’ iddyn nhw hogia!!’
Wrth gwrs, nid rhoi ‘hell’ i rhywun yn llythrennol dwi’n ei feddwl, ond yn hytrach rhoi 100% i mewn i’r dasg, trio fy ngorau glas, a dod allan yr ochr arall gyda gwên fawr ar fy wyneb, yn barod am yr her nesaf!