(digwyddiad ar-lein 21 Gorffennaf 2021 gan Nerth Dy Ben)

Bydd Cneifiwr Peiriant Gorau’r Byd, Richard Jones o Glyndyfrdwy a’r rhedwraig antur eithafol, Lowri Morgan yn ymuno â’r darlledwr profiadol Nic Parry mewn digwyddiad rhithiol o Stad y Rhug i rannu’r dygnwch, y dyfalbarhad a’r nerth meddyliol sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r heriau corfforol yma.

Mae’r digwyddiad Cymraeg ar-lein, sy’n dechrau am 8pm, nos Fercher yma, 21 Gorffennaf yn cael ei drefnu gan Nerth Dy Ben, sefydliad gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n ceisio rhoi llwyfan i unigolion rannu profiadau cadarnhaol, yn y Gymraeg, am gryfder meddwl wrth fyw a gweithio yng nghefn gwlad Cymru,

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw o ddigwyddiad ‘Dau fyd, dau athletwr, un nerth’ ar Facebook ac ar dudalen YouTube Nerth dy Ben.