Gwybodaeth am wasanaethau ac elusennau iechyd meddwl sy’n bodoli yn y Gymraeg sydd ar gael i roi cymorth arbenigol
Cymorth
Sefydliad DPJ
Mae sefydliad DPJ yn elusen iechyd meddwl sy’n gweithio gyda phobl ym myd amaeth Cymru. Trwy eu gwasanaeth ‘Rhannwch y faich’ maent yn darparu mynediad i gwnselydd o fewn wythnos unwaith mae rhywun wedi cysylltu â nhw. Mae ‘Rhannwch y Faich’ yn llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael 24/7 lle mae eu gwirfoddolwyr yn gwrando heb feirniadu. Maent hefyd yn cynnig hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i unrhyw un sydd mewn cysylltiad â’r byd amaeth yng Nghymru. I gysylltu â ‘Rhannwch y Faich’, ffoniwch 0800 587 4262 neu decstiwch 07860 048 799.
FCN – Farming Community Network
Mae FCN Cymru yn weithredol ar draws Cymru. Mae ganddynt linell alw ar gael rhwng 7-11, 365 diwrnod y flwyddyn – 03000 111 999 ac hefyd llinell gymorth electronig – help@fcn.org.uk.
Mae gwirfoddolwyr ar draws Cymru sy’n gallu cysylltu ag unrhyw un a’u cefnogi wrth iddyn nhw weithio trwy eu problemau. Mae perthnasau, materion ariannol, taliadau fferm, olyniaeth a lles meddyliol a chorfforol yn rhai pethau maen nhw’n delio â nhw yn rheolaidd.
Mae cymorth hefyd ar gael ar eu gwefan ddwyieithog.
Meddwl
Sefydlwyd gwefan meddwl.org ym mis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Tir Dewi
Mae Tir Dewi yn Sefydliad Cefnogi Ffermydd. Mae’n nhw’n cynnig cefnogaeth i ffermwyr a’u teuluoedd ar draws Cymru gyda chymorth grŵp o gyd-weithwyr a gwirfoddolwyr. Maen nhw’n ceisio eich cefnogi gyda beth bynnag yr ydych chi’n delio ag ef, boed hynny trwy sgwrs syml neu drwy gadw mewn cysylltiad gyda chi am fisoedd i weithio drwy bob math o broblemau.
Mae’r gefnogaeth i gyd yn cael ei gynnig am ddim, yn gyfrinachol a thrwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Maen nhw yma i helpu, heb feirniadu. Os ydych chi’n cael amser anodd, peidiwch â brwydro ar eich pen eich hun, ffoniwch Tir Dewi. Mae siarad bob amser yn helpu. Llinell gyswllt – 0800 121 4722
Hafal
Mae Hafal yn elusen sy’n cael ei harwain gan ei aelodau i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais ar y rheiny sydd â phoblemau iechyd meddwl dwys, eu gofalwyr a’u teuluoedd gan gynnig y gwasanaeth ym mhob un o’r 22 sir yng Nghymru.
Mind
Mae Mind Cymru yn elusen iechyd meddwl.
Law yn llaw â’u 20 grŵp Mind lleol yng Nghymru, maen nhw’n benderfynol o wella iechyd meddwl y wlad hon.
Maen nhw’n darparu gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg.
Mae eu llinell wybodeth yn darparu gwybodaeth ar wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, lle i gael cymorth, moddion, triniaethau amgen ac eirioli.
Ffoniwch 0300 123 3393 neu ebostiwch info@mind.org.uk
I ddarganfod mwy am beth maen nhw’n ei gynnig, ewch i https://www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/