Nid yn aml y bydd y gŵr yn awgrymu ein bod ni’n mynd am noson allan i rhywle. Peidiwch â ngham ddeall i, mae o’n mwynhau noson allan cystal â finna. Ond fel arfer, y FI fydd yn annog ac yn trefnu. Felly pan soniodd y byddai’n syniad cael tocynnau i ‘Noson Cryfder mewn Comedi’ – Nerth dy Ben, dyma holi Siop Clwyd ar unwaith am rai. Ond och! Y siom! Dim un ar ôl. Trio Elfair wedyn a chael addewid y bydden nhw’n cadw dau i mi…a doedd dim ond chwe thocyn yn weddill yno! Roedd y rhain fel aur!  

Pan fo’r si yn mynd ar led fod tocynnau’n brin, a bod yna restrau aros hirach na rhai’r Gwasanaeth Iechyd am docyn sbâr, mae’r disgwyliadau am noson dda yn codi’n sylweddol. Tipyn o bwysau ar y trefnwyr cyn cychwyn felly i fodloni’r gynulleidfa awchus! Ond beth yn union oedden ni yn ei ddisgwyl? Doedd neb yn siŵr iawn. Roedd y tocyn yn dweud “Noson Cryfder mewn Comedi” – siawns am ddigon o chwerthin felly! Ond ai ‘stand yp’ fyddai yno? Neu seiat holi efallai? Neu ‘chydig o sgetsus?? Yn sicr roedd yr enwau ar y tocyn yn meddu ar y doniau i wneud y pethau hyn i gyd – Sian Parry, Eryl Davies, Dilwyn Pierce, John Bryn Hen, Tudur Owen…a neb llai na’r Barnwr, Nic Parry i gadw trefn ar y cyfan. Dyna i chi arlwy!

 

Pan ddaeth hi’n nos Iau Dyrchafael, roedd y fro i gyd yn heidio am Neuadd y Dref Dinbych. Yn ôl ein traddodiad ni’n dau, roedd hi’n ben set arnon ni’n cyrraedd a’r Neuadd dan ei sang yn barod – rhai ifanc a rhai dipyn yn hŷn – a’r awyrgylch yn gynnes braf. Roedd ciwio a sgwrsio tua’r bar, a’r rhai trefnus wedi cyrraedd yn gynnar i sicrhau bwrdd a lle cyfleus (os nad peryglus!) yn y blaen. Am y galeri aethon ni a setlo ein hunain yn y rhes flaen yn barod am y sioe.

Teg dweud na chawson ni ein siomi. Ar ôl gwrando ar anthem Nerth dy Ben a gwylio’r artistiaid yn ei pherfformio ar y sgriniau mawr a ddarparwyd gan Grwp Cynefin, dyma gerddoriaeth wahanol, ac awyrgylch disgo bywiog yn llenwi’r Neuadd. Ac o ochrau’r llenni, wele gymeriad lliwgar yn ymddangos yn ei siaced binc lachar! Hwn oedd y galwr bingo o Gilgwri â’i acen sgows fendigedig. Ond er mawr syndod i ni, roedd o hefyd yn rhugl yn ei Gymraeg a chawsom ar ddeall fod ei Daid yn dod o Gymru ac wedi dysgu iaith y nefoedd iddo!! Mi fedra i ddweud fod yna beth panig o’n cwmpas, a chwilota mewn handbags am feiro neu bensil neu rywbeth er mwyn bod yn rhan o’r ‘Bongo Bingo’ arfaethedig. Ond roeddwn i’n amau’n gryf fod acen ffermwr llaeth o Gefn Meiriadog yn cuddio tu ôl i’r siaced binc a’r acen Sgows a, diolch byth, fu dim rhaid i neb weiddi “TŶ” dros y Neuadd na chasglu gwobr o’r llwyfan. Dyma oedd y cychwyniad hwyliog i noson oedd yn cynnig llond bol o chwerthin, ac ambell beth i gnoi cil arno. 

Panel gafwyd wedyn, a Nic Parry’n holi Sian, Eryl a Dilwyn am eu profiadau nhw ar lwyfan yn creu chwerthin a difyrwch dros y blynyddoedd. Mudiad y Ffermwyr Ifanc oedd man cychwyn pob un ohonynt ac roedd hi’n ddifyr eu clywed nhw’n hel atgofion ac yn dweud mor ddyledus oedden nhw i rai fel Gwilym Morris, Llechryd a Bryn Williams, Plas Uchaf am annog a hybu’r hwyl yn lleol. 

Profiad braf i’r gynulleidfa wedyn oedd cyd-wylio ‘Sgets y Bocsio’ ar y sgrin fawr. Dwi wedi ei gweld hi droeon, ond erioed ar deledu enfawr yn Neuadd y Dref hefo hanner y fro yn gwmni i mi. Mae hi’n dal i greu chwerthin diniwed o waelod y bol, yr un fath â chwerthin heintus y gynulleidfa wreiddiol honno yn y Noson Lawen sawl blwyddyn yn ôl. Beth sydd wedi digwydd i’r hwyl diniwed hwnnw tybed? Ydy archwaeth gomedi’r wlad wedi newid, neu wedi esblygu dros y blynyddoedd? Bu’r panelwyr yn trin a thrafod hyn. Mae’n bwnc diddorol, ond yr hyn sy’n sicr ydy ein bod ni gyd yn dal i fwynhau dos iawn o chwerthin weithiau, ac mae hynny’n lles i’r enaid. Yr hyn dydyn ni ddim yn ei ystyried efallai, ydy sut brofiad ydy hi i’r digrifwyr sy’n tanio’r hwyl hwnnw. Gawson ni gipolwg ar y chwysu a’r gwaith caled sydd y tu ôl i’r jôcs a’r hiwmor – a hanes sawl tro trwstan ac ambell noson ddigwsg yn dilyn perfformiadau. 

Tudur Owen oedd y gwestai olaf i ymuno â’r criw ar y soffa drafod. Roedd o’n gartrefol iawn ymysg ein criw doniol, lleol ni ac yn rhannu profiadau â nhw am ei yrfa yntau’n codi gwên. Datgelwyd mai Tudur Owen oedd y gweithiwr cefn llwyfan di-nod fu’n tendio a gwneud te i Dilwyn Pierce cyn iddo fo ymddangos ar y Noson Lawen sawl blwyddyn yn ôl! Ffaith yr oedd Dil yn amlwg yn ymhyfrydu ynddi, ac awgrym o dipyn o dynnu coes iach rhwng y ddau.

Mae fy niolch yn fawr i’r gŵr am awgrymu mod i’n cael tocynnau ar gyfer y noson arbennig hon – roedd hi’n sicr yn werth y ras i siop Elfair cyn cau, ac ar ôl yr holl ddyfalu beth fyddai trefn y noson, gallaf ddweud ei bod hi’n gyfuniad perffaith o sgwrs a sgets; yn noson i’n hatgoffa ni o werth chwerthin, ac o les cael noson lawen. Prun ai ydy o’n digwydd mewn cwmni bach o ffrindiau’n dod at ei gilydd, neu yn ddigwyddiad mawr a llond neuadd o bobl yn rhannu hwyl, does yna ddim ffisig gwell na chwerthin.  

Ffion Williams