Dwi’n teimlo fod cael nôd mewn bywyd yn ffordd o roi pwrpas i fi fy hun.  Mae’r teimlad o fod yn angerddol tuag at rhywbeth neu mewn cariad â rhywbeth yn help i godi’n y bore. Mi faswn i’n annog unrhyw un i ddarganfod eu breuddwyd -dim bwys be’ ydy’r freuddwyd honno, nag ei faint – ond be’ sydd yn bwysig ydy faint mae’n ei olygu i ni, ei fod yn realistig ac mai ein breuddwyd ni ydy o – bydd ymroddiad cymaint gwell os wnawn ni hyn er mwyn ni ein hunain a neb arall.   

Fel ddywedodd y seicolegydd Jerry Wesch,“When you have a big enough dream, you don’t need a crisis!” Mae’r neges gan y gwyddonydd Albert Einstein hefyd yn debyg.. “Your dreams are a snapshot of your future”. Mae pob amser yn haws gweithredu ar labor of love yn hytrach na labor without love yn tydy?!

Mae rhai pobl yn hoff o ffeithiau ac eraill yn fwy ysbrydol eu natur. Dwi di dod i’r canlyniad mod i’n berson holistaidd mewn ffordd gwyddonol! Hynny ydy, dwi wrth fy modd yn darganfod mwy am y ffordd mae ein cyrff yn gweithio – pob system yn ddibynnol ar ei gilydd a’r ffordd de ni’n rhan o’r un system enfawr, sef cysawd yr haul. Ond rhaid deall pob rhan yn unigol ac yn wyddonol gyntaf cyn dod â’r cwbl at ei gilydd.  

Yn fy nhyb i, mae chwe egwyddor sylfaenol, sy’n angenrheidiol ar gyfer cynnal iechyd, yn gwau yr ochr holistaidd a gwyddonol efo’i gilydd. Dyma nhw…

Y Meddwl, Yr anadl, Symud y corff, Maeth, Hydradu a Chwsg.   

Pan fo gwendid yn unrhyw un o’r egwyddorion yma, dwi’n gwybod yn iawn fod y nerth i barhau gyda’r hyn dwi’n anelu ato yn gwanhau.

Mae’n hawdd dweud.. ‘dwi’n mynd i fod yn berson cryfach’, neu ‘mae gen i’r nerth i gyflawni  fy nôd mewn bywyd’, ond ‘di ddim mor hawdd sticio at ein gair bob tro nacdi? Dwn i’m amdano chi, ond dwi’n teimlo nad yw dibynnu ar hunanddisgyblaeth yn unig yn gweithio bob tro. Yn hytrach, pan dwi’n sicrhau fod pob un o’r chwe egwyddor yma yn cael sylw, bydd gen i gydbwysedd cymaint gwell mewn bywyd. Mae cymaint haws i mi reoli’r cryfder meddyliol os ydw i’n edrych ar ôl yr holl egwyddorion yn eu tro. 

Y Meddwl

Mae meddylfryd positif yn dangos yn ein cyrff. Yn yr un modd mae meddylfryd negyddol a digalon yn amlygu ei hun fel ystym digalon. Gall hyn arwain at dreuliad gwael – enghraifft amlwg o sut mae’r meddwl a’r corff yn gysylltiedig. Petai corff camera yn fudr byddai’r lluniau hefyd yn aneglur. Dyma sut dwi’n edrych ar fy nghorff – os nad yw fy nghorff yn cael ei fwydo â’r maeth cywir, digonedd o ddŵr ac awyr iach, gall problemau amlygu eu hunain drwy’r meddwl – diffyg canolbwyntio, cur pen neu fethu dehongli a dygymod o bosib.

Fel dwi’n mynd yn hŷn dwi’n sylweddoli pa mor bwysig ydy hi i wneud fi fy hun yn hapus a pheidio â dibynnu yn ormodol ar eraill i wneud hynny drosta i. Dwi’n ceisio dathlu a bod yn ddiolchgar am be’ sy’ gen i. Ar yr un pryd osgoi pendroni am y pethau hynny sydd ddim yn bosib – dwi’n teimlo fod hyn ond yn fy atal rhag gwneud cynlluniau a symud ymlaen.

Yr anadl 

De ni gyd yn anadlu heb feddwl dyden?  Ond pan dwi’n dechre wirioneddol ganolbwyntio ar fy anadl, (dwi’n golygu anadlu ‘go iawn’ yn ddwfn i fewn i’r bol), mae hynny’n rhywbeth arall. Mae anadlu dwfn yn sicrhau digonedd o ocsigen i’r corff – wedi’r cwbl, maeth ydy ocsigen, ac mae ei angen ar bob cell er mwyn goroesi. Gall cymryd munud neu ddau o seibiant i anadlu yn ddwfn wneud gwyrthiau i lefel fy egni, amynedd a chanolbwyntio.  Wrth roi llaw ar fy mol pan yn y gwely cyn mynd i gysgu a gwrando a theimlo symudiad yr abdomen yn codi a disgyn gyda phob anadl, mae’n ffordd wych o helpu i ymlacio a disgyn i gysgu yn rhwydd, (mae’n gweithio gyda’r plant hefyd os ‘de nhw’n cael trafferth cysgu).

Symud

Bywyd  = symud, a heb symudiadau does dim bywyd, mae mor syml â hynny. Dwi’n angerddol am ymarfer corff tu allan, be bynnag di’r tywydd, boed yn fynd am dro araf neu wneud ymarfer corff dwys yn y coed. Be bynnag dwi awydd ar y pryd sy’n mynd i fwydo fy nghorff â’r egni dwi ei angen. Dydy hynny ddim yn golygu fod angen chwysu a chwythu bob tro! Gwrando ar fy nghorff – os dwi di blino neu o dan straen yna mae’r ymarferion angen adlewyrchu hynny. Byddai ymarfer corff dwys sy’n creu mwy o straen ar gorff sydd yn barod o dan straen ond yn ychwanegu at y stres negyddol.    

Maeth

Mae cymaint mwy i fwyd na rhoi tanwydd i ni. Dwi’n meddwl am fwyd fel y plastar sy’n adfer ac adeiladu ein celloedd. ‘We are what we eat’ wedi’r cwbl. Mae braster ac olewyddion da yn angenrheidiol ar gyfer bwydo’r ymennydd er enghraifft. Roedd ein cyndeidiau a neiniau yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o fwyta pysgod olewog er mwyn gwella’r meddwl.  Mae pob dim dwi’n roi yn fy ngheg yn mynd i gael rhyw fath o effaith arna i a dwi di dysgu dros y blynyddoedd (ac yn dal i ddysgu) sut i wrando ar yr arwyddion, boed yn dda neu’n ddrwg. 

Hydradu

“The best solution for pollution is dilution”. Mae hyn yn wir yn feddyliol, yn gorfforol ac yn amgylcheddol. Dwi ‘mond angen atgoffa fy hun fod yr ymennydd yn 80% dwr ac ar ben hynna mae pob adwaith sy’n digwydd yn y corff a’r ymennydd yn ddibynnol ar ddŵr! Mae’r dŵr dwi’n yfed bob dydd felly yn sicr o fod yn help garw i gadw’r ymennydd yn gryf ac yn iach.  

Cwsg ac amser tawel

Os oes rhaid dewis un prif egwyddor – dyma fo. Cwsg yw’r meddyguniaeth gorau, ac mae o am ddim! Yr amser i’r corff a’r meddwl gael seibiant o’r straen a’r heriau sy’n wynebu ni’n ddyddiol. Fel mam i efeilliaid, dwi’n deall yn iawn be di diffyg cwsg! Rŵan eu bod nhw ‘chydig yn hŷn mae’r nifer o nosweithiau golau wedi lleddfu. Ond gyda phedwar o blant mae amser tawel yn dal i fod yn brin. Er hynny, dwi’n trio blaenoriaethu fel fod amser tawel ar yr agenda (yn achlysurol!) 

O brofiad, dwi’n gwybod y gall problemau ddigwydd os oes datgysylltiad rheolaidd rhwng yr egwyddorion yma. Ond os medra i fyw ar yr egwyddor o 80/20 – hynny ydy, byw yn dda 80% o’r amser, yna dwi’n hapus! Dwi’n sicr ddim am roi pwysau arna fi fy hŷn i fod yn berffaith drwy’r amser, byddai hynny ond yn arwain at deimlad o fethiant. Mae gynnon ni wastad ddewis mewn bywyd … cymryd cyfrifoldeb o fy nghorff fy hun di fy nôd, a chadw’r cyswllt rhwng y chwech egwyddor gorau galla i.  

Elen Lloyd Wynne