Fy enw i ydy Aled Jones a dwi’n byw ar ffarm ym mhentref Nantglyn ger Dinbych. Ar hyn o bryd rwy’n fyfyriwr blwyddyn olaf ym mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Amaethyddiaeth a Busnes. Yn ogystal ag amaethu, mae mudiad y ffermwyr ifanc a cherddoriaeth yn chwarae rhan bwysig iawn yn fy mywyd gyda’r delyn a’r piano yn cael lle uchel iawn yn ein tŷ ni yn ogystal â chanu mewn côr a phartïon lleol.

 Wrth fod yn fab ffarm, mae llawer o fy amser adref yn golygu bod allan yn yr awyr agored ar y ffarm yn gwneud gwaith y dydd, ac yn aml mae hyn yn golygu bod ar ben fy hun, ac er mor braf ydy bod yng nghanol llonyddwch a phrydferthwch byd natur, mae’n syndod faint o amser sydd gan rhywun i hel meddyliau, boed rheini yn dda neu’n ddrwg.

Dros y dair blynedd i mi fod yn astudio yn Aberystwyth, a’r cyfnodau adre ar y ffarm yn ystod y gwyliau, dwi wedi dod yn fwy ymwybodol ac wedi sylweddoli fod ‘cryfder meddyliol’ yn rwbeth sydd ei angen ar bobol ifanc i gadw’n feddyliol iach y dyddiau hyn. Does na neb erioed wedi dweud ei bod hi’n hawdd i fod yn berson ifanc ac yn wir, mae’n gallu bod yn sialens. Mae pwysau cynyddol a rôl amlwg y cyfryngau cymdeithasol yn ein bywydau yn ein harwain ni i feddwl mai dilyn pawb arall sydd orau ac mai dyna’r ffordd y dyliwn ni wneud pethau, ond mae’n bwysig i ni beidio meddwl fel ‘ma. Y syniad o gryfder meddyliol i mi ydy’r gallu i edrych heibio’r negeseuon a’r sylwadau, a lluniau ‘perffaith’ o sut i edrych, neu sut i fyw eich bywyd. Mewn gwirionedd gwneud beth sydd orau i chi, a dilyn eich llwybr eich hunain ddylai fod yn cael ei ddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, chi sy’n bwysig, a chi sydd â’r hawl i fyw eich bywyd y ffordd dechi isho. Dyna dwi’n drio ei gofio wrth ‘sgrolio’ ar y cyfryngau cymdeithasol a trio meddwl am pwy ydw i fel person yn hytrach na chymharu fy hun efo pobl eraill. 

Yn aml mae ein bywydau ni fel pobol ifanc yn dueddol o fod yn brysur iawn, o fod yn gwneud gwaith coleg neu brifysgol a cheisio dal i fyny gyda bwrlwm a phwysau cymdeithasol bywyd fel myfyriwr, tra’n dal i drio plesio a chadw pawb adref yn hapus, mae’n gallu teimlo fel petai rhywyn yn jyglo weithiau. Neu i’r rhai sydd wedi mynd i fyd gwaith ac yn teimlo o dan bwysau oherwydd rhan benodol o’r swydd, yn poeni am bethau, neu yn trio cyrraedd llefydd ar amser ond weithiau’n methu. Ond be’ mae llawer yn anghofio, yng nghanol holl brysurdeb bywyd yn aml iawn, yn cynnwys fi yw, bod angen amser i ‘ti’. Mae’n hawdd iawn anghofio amdanat ti dy hun, sef y person mwyaf pwysig yn eich bywyd mewn gwirionedd. Dwi’n credu os gall rywun gofio hynny a chymryd amser i feddwl a sylweddoli bod angen amser i just switch off, a bod y meddwl yn cael cyfle i ymlacio rhywfaint, ei fod yn gwneud lot o lês i’r meddwl. Er engraifft y ffordd dwi’n trio cofio amdana i fy hun a trio cadw’r meddwl yn iach ydy pigo noson neu ddwy yr wythnos, neu bnawn ar y penwythnos i wneud dim byd i neb arall. Fydda’ i weithiau yn chwarae’r piano, yn darllen erthyglau o ddiddordeb i mi neu wneud unrhyw beth sy’n gwneud i mi deimlo’n hapus ac fel fi fy hun. Ac ar ôl ychydig iawn o amser, dwi’n teimlo bod ychydig o bwysau wedi codi. Mae’r peth mwyaf syml yn gallu gwneud pethau mawr a rhoi’r holl feddyliau yn dy ben i gysgu am ychydig, ac yn ei dro yn cryfhau’r meddwl. 

Ffordd arall dwi’n cadw fy meddwl yn iach ydy trio treulio 10 munud gyda’r hwyr, cyn mynd i gysgu, a meddwl be dwi wedi ei gyflawni / wneud heddiw. Fydda i’n trio cadw dyddiadur bach bob nos oherwydd mae gweld be dechi wedi gyflawni mewn diwrnod o’ch blaen ar bapur yn edrych mor dda! Dwi’n argymell unrhyw un i ddechrau cadw dyddiadur, hyd yn oed os mai dim ond un peth dechi’n gallu meddwl amdano fo i’w sgwennu, boed yn cwpl o eiriau neu’n baragraff, mae pob dim yn cyfri ac yn gallu arwain at gadw’r meddwl yn gryf ac yn iach. 

Dyma cwpl o tips bach syml dwi’n eu defnyddio i gadw fy meddwl yn gryf;

  • Rhoi dy hoff gân ‘mlaen peth cyntaf yn y bore, neu creu ‘feel good’ album ar dy ffôn a’i roi ar ‘shuffle’ i gael syrpreis bach ben bora!
  • Os yn gweithio ar ben eich hun yn aml, cadwch eich hoff ‘sweets’ neu siocled yn y car neu yn y gweithle. Pan mae rhywun yn teimlo’n isel, mae’n syndod pa mor dda mae rhywbeth melys yn gallu gwneud i chi deimlo!
  • Cadw dyddiadur bob dydd a chofnodir pethau da a ddigwyddodd. 
  • Trio ffonio cwpl o ffrindiau neu aelodau o’r teulu yn wythnosol am sgwrs o leiaf deg munud/chwarter awr i gael malu awyr am unrhyw beth sydd ar eich meddwl.
  • Mynd trwy hen luniau ar eich ffôn. Mae edrych ar luniau yn gallu dod ag atgofion gwych a chodi ysbryd rhywun. 
  • Ac yn olaf, cofio mai ti ydy’r person pwysicaf. Edrych ar ôl rhif un sy’n bwysig a chofio rhoi amser i ti dy hun.

Aled Jones

Nantglyn