Nerth dy ben i fi ydy fy nheulu i; maen nhw’n rhoi nerth i fi pan dwi ei angen o. Fel cyw bach y teulu, maen nhw wastad yn edrych ar fy ôl i, a dwi’n meddwl eu bod nhw i gyd yn dal i feddwl amdana i fel hogan fach y teulu!! Yn aml mewn bywyd, cewch chi gyfnodau anodd a heriol, a dan ni fel teulu di profi lot efo’n gilydd. Nai byth anghofio cyrraedd ysbyty stoke ar ôl i mrawd fod mewn damwain a gweld fy chwaer yn dod allan o’r car efo gwên ar ei wyneb, ei ffordd hi o ddeud ‘ddoith o drwy hyn sdi’. Ac mi wnaeth o, er ei fod o wedi effeithio arno fo hyd heddiw, mae o’n gwybod ein bod ni i gyd yma iddo fo, wastad. Pwy bynnag yn eich bywyd chi sy’n rhoi nerth i chi, cadwch nhw’n agos.
Dros y ddwy flynedd diwethaf yma, dwi wedi dysgu mod i’n rhoi lot gormod o bwysau arna i fy hun, i wneud yn dda mewn pethau, a’r gwir ydy, does ‘na neb yn berffaith ym mhob dim, ac mae’n bwysig cofio hynny. Dwi’n astudio Meistr, a gan i fod o’n Masters in Science (MSc) roedd rhaid gwneud gwyddoniaeth a lot fawr o Fathemateg!! Os dach chi’n fy nabod i, dwi’n anobeithiol yn y ddau yma. Un o’r pethau anoddaf wnes i oedd gwneud ymchwil gwyddonol ar gyfer fy nhraethawd hir. Mi wnaeth o gymryd bron i chwe wythnos cyfan i mi wneud un rhan o’r ymchwil, ond fel oedd mam yn ddweud, ac sy’n helpu lot fawr o’r amser, ydy ‘Cymera un diwrnod ar y tro’, ac os ti’n methu, tria eto.’ Ac mae hyn yn bwysig efo lot fawr o bethau mewn bywyd, dilyna dy freuddwydion, ond ar yr un pryd, cofia edrych ar ôl dy hun.
Un o’r pethau eraill dwi’n ddefnyddio yn aml iawn os dwi dan straen academaidd ydy dweud wrtha i fy hun ‘Be ydy’r peth gwaetha fedrith ddigwydd?’ ac mae hyn yn rhoi pethau mewn perspecif i fi, ac wedyn dwi mewn lle gwell er mwyn trio gorffen y dasg. Yn bendant, mae hyn yn gweithio’n dda iawn mewn lot o sefyllfaoedd, yn enwedig pan ti’n cael y diwrnodau ‘na pan mae bob dim yn mynd o chwith, ca mae meddwl am y cwestiwn yna yn gwneud i fi feddwl ‘ti’n gwbod be, dydy o ddim yn ddiwedd y byd’.
Mae cael pwrpas mewn bywyd yn helpu nerth fy mhen i. Rydych chi’n fwy tebygol o ddangos gwytnwch os ydych chi’n mwynhau eich swydd, yn angerddol am y gwaith, ac ar yr un pryd, mae’n rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi. Dwi’n 26 eleni, ac mae hi wedi cymryd hyd at rŵan i mi ddod o hyd i rywbeth dwi wir yn ei garu ac yn fy herio i, ond ma hyn yn bwysig yn fy marn i. Gan fod y swydd yn rhoi pwrpas i mi, mae’n rhoi cymhelliant i mi i fynd ymlaen i oresgyn heriau o fewn y swydd. Buaswn i yn argymell unrhyw un i fynd ati i ddilyn eu calon, wedi’r cyfan, mae bywyd lot rhu fyr i beidio â mwynhau eich swydd.
Rhywbeth dwi’n annog fy nghleientiaid i’w wneud yn aml ydy rhannu sut rydych chi’n teimlo. Ysgrifennu, darllen, siarad, crio, neu beth bynnag sydd ei angen arnoch chi. Mae dod o hyd i rywun sy’n eich deall yn help anfesuradwy. Yn aml, dan ni’n dueddol o gadw ein teimladau i mewn, ond mae siarad yn helpu. Yn sicr, mae’n help siarad gyda rhywun sydd wedi mynd drwy’r un peth, ac mae’n rhoi cryfder mewnol. Mae rhywun bob amser, rhywle ar gael i siarad.
Felly, fy nheulu a rhoi bywyd mewn persbectif, a siarad yn agored sy’n rhoi nerth i mi mewn bywyd. Dydach chi byth ar eich pen eich hun, cofiwch hynny. Gwnewch y mwyaf o fywyd, wedi’r cwbl, dim ond unwaith dan ni yn yr hen fyd ‘ma.
Mirain Glyn