Ein Stori

Mynd yn ôl i’r dechrau, trwy lygaid ein sylfaenydd, Alaw.

Heloooo... Pwy feddylia nôl yn 2018 y baswn i’n eistedd yma rwan yn sgwennu stori Nerth dy Ben. Roedd cysyniad ‘nerth’ a ‘dylanwad y meddwl‘ wastad yn gwneud i mi ryfeddu, ac mae’n dal i fod. Ond wnes i erioed ddychmygu y baswn i’n gorfod dibynnu gymaint ar y nerth gadarnhaol yn fy mhen wrth i mi fyw o ddydd i ddydd. A’i a chi’n nôl i ddechrau 2018. Ro’n i newydd droi’n 30 ac yn edrych ‘mlaen i fyw bywyd yn fy nhridegau i’r eithaf. Roedd gen i swydd newydd ro’n i’n ei garu, roeddwn i wedi ymgartrefu mewn ty newydd, yn iach ac yn mwynhau cadw’n ffit – a dwi’n cofio yn benodol ista’ lawr ar y soffa hefo glasiad o win coch yn wirioneddol edrych ’mlaen am y flwyddyn oedd o’m ‘mlaen i. Ar yr 2il o Hydref y flwyddyn honno, fe drodd fy mywyd i ar ben ei waered pan darodd gar i mewn i mi ar fy ffordd adra o fy ngwaith. Yr eiliad honno, mi wnaeth bob dim ddod i stop – ac mae bywyd wedi bod yn annisgwyl o wahanol ers hynny.
Neshi dreulio 3 mis yn yr ysbytu efo rhestr hirfaith o anafiadau, a triniaethau di-diwedd o’m mlaen. ’Chydig iawn dwi wir yn gofio o’r cyfnod yma o fod yn gaeth i’r gwely, ond mi ro’dd bywyd ar ei symla’. Doedd dim byd ond cwsg, teulu a ffrindia da, cariad a maeth yn bwysig. Unwaith gyrhaeddis i adre i dy fy rhieni – dyne pryd ddechreuodd yr her go iawn. Wrth i mi ddechrau’r daith o ail ddysgu symud a cerdded eto, roedd ffitio’n hun i mewn i fyd oedd mor gyfarwydd yn anodd. Y tro hwn, mi ro’n i’n berson gwahanol ac yn llai abal mewn sawl ystyr. Tu allan i ddiogewlch a blanced cynnes a saff oedd yn fy nghofleidio i 24 awr o’r dydd yn yr ysbytu, roedd bywyd yn rhwystredig, anodd, a diarth. Ond mi ro’n i ar yr un pryd mor lwcus o’r gofal arbennig oedd yn fy helpu i wneud synnwyr o fywyd ar ei newydd wedd.

"Dyma pryd neshi sylweddoli bod gen
i’r gallu i reoli y peiriant anhygoel o gymleth yn fy mhen"

Y ddau beth cyna i mi flaenoriaethu yn fy nhaith o wella oedd ffysiotherpi a cownsela – ac mi oeddwn i’n gwybod fod y ddau beth yn hanfodol i mi wrth adeiladu fy nghryfder.Mae fy stad meddyliol yn bendant yn dylanwadu ar sut dwi’n teimlo’n gorfforol. Os dwi’n diodda’n feddyliol, yna dwi’n teimlo’r boen corfforol yn fwy. Os dwi’n gorfod meddwl a chanolbwyntio ar y boen dwi’n ei ddiodda’ yn fy nghorff, yna mae egni y boen hwnnw yn fwy. oedd y ddau beth mor gysylltiedig, nes i mi un diwrnod gael profiad na’th ddylanwadu ar drywydd fy nhaith o hynny ymlaen... Yn 2019, cyn i mi ddechrau ar fy ngwaith ffisiotherapi dyddiol (yn garej Nain ar y pryd!), mi geshi gyfarfod anodd efo tim o bobl oedd yn sgwrsio am y pethau negyddol oedd yn fy effeithio o ddydd i ddydd. Y diwrnod hwnnw, roedd sgil effaith y drafodaeth yn enfawr, a pan ddaeth yr amser i mi rwyfo ar y peiriant (rwbeth dwi fel arfer yn ei fwynhau) doedd dim ond poen yn fy ngwynebu.
Na’i byth anghofio y teimlad – y gwylltineb, y galar, yr anobaith na’th fy nhrechu i yn y foment honno. Ond, yn y munudau hynny o dorcalon, na’th na rwbeth newid – ac mi ddeffrodd y profiad ran o’n ymenydd i oedd isho ymladd yn ôl. Hefo pwer y wen ar fy ngwyneb, ges i’r sylweddoliad ’ma mai fi yn unig sy’n gallu rheoli y ffordd dwi’n ymateb ac yn teimlo a mod i'n ddibynnol ar fi fy hun yn unig. Dyma pryd neshi sylweddoli bod gen i’r gallu i reoli y peiriant anhygoel o gymleth yn fy mhen ac i ail raglennu fy ffordd o feddwl ac edrych ar fy sefyllfa i o hyn allan. Dyma oedd dechrau taith o gydnabod a dysgu am nerth fy mhen, ac o fodolaeth Nerth dy Ben. Hefo cefnogaeth criw bendigedig o ffrindia’, dyma wireddu’r freuddwyd o ddod â Nerth dy Ben yn fyw yn Chwefror 2020.