Yn ystod prif gyfnodau datblygiadol ein bywydau, rydym yn dueddol o dalu mwy o sylw i sut rydym yn gofalu am rywun. Er enghraifft, babi newydd bregus; merch yn ei harddegau sy’n mynd trwy gyfnod o fod yn afresymol; neu ddirywiad mewn iechyd person hŷn. Rydym yn talu sylw arbennig iddyn nhw, oherwydd ein bod yn cydnabod pa mor bwysig a ffurfiannol yw’r cyfnodau hyn.
I’r gwrthwyneb felly rydym yn dueddol o anghofio ein bod wastad mewn cyfnod a chyflwr lle mae modd i ni newid a datblygu. Mae ein gallu i dyfu, goresgyn ac addasu i heriau a rhwystrau sy’n ymddangos ar ein llwybrau, yn parhau y tu hwnt i’r cerrig milltir datblygiadol mawr.
Un o’r allweddi i wytnwch yw sylweddoli bod popeth wastad yn newid, yn enwedig ni ein hunain. Mae heriau yn cynnig cyfleoedd i ni newid cyfeiriad a dysgu a thyfu. Mae gwytnwch yn ein hannog i fynd ar drywydd y twf hwnnw. Wrth i ni ddatblygu ein gwytnwch, rydym yn gallu symud heibio’r rhwystrau hyn gyda mwy o gryfder a nerth.
Dyma 5 ffordd y gallwch chi ddatblygu gwytnwch ynoch chi’ch hun, yn eich teuluoedd, ar eich ffermydd, ac yn eich gweithleoedd.
1.DATBLYGU RHWYDWAITH CYMDEITHASOL CRYF
Mae amgylchynu’ch hun gyda phobl rydych chi’n eu hedmygu yn eich helpu i greu patrymau hunan-gred cadarnhaol newydd ynoch chi’ch hun a’r byd o’ch cwmpas. Mae’n debyg i pan rydym yn clywed stori am rywun sydd wedi cael colled tebyg i chi, a gweld eu bod nhw wedi gallu creu rhywbeth hardd a chadarnhaol allan o’r boen hwnnw. Mae gweld cynrychioliadau ac enghreifftiau o gryfder a nerth o’n cwmpas ni’n helpu i ni feithrin yr un nerth ynom ni ein hunain. Amgylchynwch eich hun gyda phobl sy’n eich atgoffa o beth sy’n werth ymladd drosto.
2. CROESAWU NEWID
Croesawch y cyfle i weld pethau o safbwynt newydd. Dathlwch y ffordd mae gofid a thrallod a thristwch yn gallu ein helpu i ddatblygu tosturi a dealltwriaeth.
3. GOFALU AMDANOCH CHI EICH HUN
Gofalwch am eich corff. Bwytewch fwydydd iach, treuliwch amser y tu allan, gwnewch ymarfer corff ac anadlwch yn ddwfn.
Gofalwch am eich meddwl. Darllenwch am bethau sydd o ddiddordeb i chi, dysgwch sgil newydd, a byddwch yn ystyriol o’ch meddyliau.
Gofalwch am eich perthnasoedd. Ailgysylltwch â hen ffrindiau, ysgrifennwch lythyr, gosodwch ffiniau iach, ymarferwch y gallu i ddweud ‘ie’ a ‘na’ pan fo angen.
Gofalwch am eich calon. Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwerthin, treuliwch amser gyda phlant, dywedwch wrth bobl eich bod yn eu caru nhw.
4. GOSOD NOD
Mae sefyllfaoedd argyfyngus o greisus yn frawychus. Efallai eu bod hyd yn oed yn ymddangos yn anorchfygol ar adegau. Mae pobl wydn yn gallu gweld y sefyllfaoedd hyn mewn ffordd realistig a gosod nodau rhesymol i ddelio â’r broblem.
Pan fyddwch chi’n cael eich llethu gan sefyllfa, cymerwch gam yn ôl i asesu’r hyn sydd o’ch blaen. Trafodwch syniadau ac atebion posib, ac yna torrwch nhw i lawr i fod yn gamau bychain y gellir eu rheoli. Yna symudwch yn eich blaen, un cam bach ar y tro.
5. GOSOD FFINIAU
Diffinir dilysrwydd eich IE gan bresenoldeb eich NA. Mae gosod ffiniau iach o’ch cwmpas eich hun ac yn eich perthnasoedd yn bwysig er mwyn blaenoriaethu’r hyn sy’n bwysig i chi. Er enghraifft, os ydych chi wedi ymrwymo i fwyta’n iach, efallai nad cael ‘tecawê‘ wythnosol gyda’ch ffrindiau fyddai’r sefyllfa orau i chi fod ynddi er mwyn eich cynorthwyo i gadw ar y llwybr iawn. Mae gennych hawl i ddweud ‘na’ wrth bobl ac osgoi sefyllfaoedd nad ydyn nhw’n eich helpu i gyrraedd y nod.
Diolch i Sefydliad ‘Do More Agriculture’ am gael cyfieithu’r erthygl hon. Nid bwriad y sefydliad yw cynnig cyngor meddygol proffesiynol, diagnosis na thriniaeth. Os ydych chi mewn argyfwng, ymwelwch â’ch adran achosion brys lleol neu ffoniwch 999 ar unwaith.
Sefydlwyd Do More Ag yn 2018 i hyrwyddo ymwybyddiaeth, lles ac ymchwil iechyd meddwl; yn ogystal â grymuso cynhyrchwyr i ofalu am eu hiechyd meddwl trwy addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth. Mae’r sefydliad hefyd yn ymroddedig i greu cymuned o berthyn, cefnogaeth ac adnoddau ar iechyd meddwl. Ewch i www.domoreag.ag i gael mwy o wybodaeth.