O ran ein hiechyd corfforol, mae gan bob un ohonom strategaethau i’n cadw ni’n hunain yn iach.  I’r rheiny sy’n byw ar fferm, mae’r gwaith corfforol sy’n cyd-fynd â hynna yn gallu ein helpu i gadw’n heini wrth gwrs, o fynd ar ôl stoc yn y caeau, i gario cyflenwadau bwyd i’r anifeiliaid a cherdded nôl a ‘mlaen ar glós y fferm.  

 

Ond mae ffermio hefyd yn dod â heriau cyson sydd weithiau y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Er mwyn helpu gyda’r heriau hynny, mae’n bwysig trin eich iechyd meddwl fel y byddech chi’n gofalu am eich iechyd corfforol. Mae iechyd meddwl yn llawer mwy nag un elfen o iechyd. Mae llawer o bobl yn gweld iechyd meddwl fel bod heb symptomau o afiechyd neu salwch meddwl, ond y gwir yw bod iechyd meddwl yn ymwneud â’ch lles seicolegol cyffredinol ehangach. Mae’n golygu teimlo’n dda am bwy ydych chi, bod â chydbwysedd yn eich bywyd, a bod â’r gallu i feddwl ac ymateb yn adeiladol i uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd.

Dylai pawb ymarfer iechyd meddwl da oherwydd gall hyn eich amddiffyn rhag salwch meddwl. Gall ofalu am eich iechyd meddwl olygu chwilio am gefnogaeth a thriniaeth broffesiynol, neu fe all hefyd olygu cymryd camau bychain bob dydd i gynnal a gwella eich lles meddyliol.

Dyma rai awgrymiadau a chyngor ar amddiffyn a gwella eich iechyd meddwl:

  1. Gweld eich Gwerth: Mae’n bwysig i chi drin eich hun gyda charedigrwydd a pharch. Mae teimlo’n dda amdanoch chi’ch hun yn rhoi hwb a hyder i chi ddysgu sgiliau newydd, ymweld â lleoedd newydd a chwrdd â phobl newydd. Mae hefyd yn help pan fydd bywyd yn anodd.
  1. Gwneud Rhywbeth i Chi’ch Hun: Rhowch eich hun fel eich prif flaenoriaeth. Cymerwch amser i wneud gweithgareddau ac ymgymryd â hobïau rydych chi’n eu mwynhau ac sy’n gwneud i chi deimlo’n dda.   
  1. Cadw’n Heini: Gall ymarfer corff rheolaidd roi hwb i’ch hunan-barch a gall eich helpu i gysgu, canolbwyntio a theimlo’n well yn gyffredinol.
  1. Bwyta’n Dda: Mae angen cymysgedd o faetholion a fitaminau arnom er mwyn cadw’n iach a chadw’r system i weithio’n dda. Mae deiet sy’n dda i’ch iechyd corfforol cyffredinol hefyd yn dda i’ch iechyd meddwl.
  1. Cymdeithasu: P’un ai a ydych o amgylch pobl ar y fferm trwy’r dydd neu’n gweithio ar eich pen eich hun, gall bywyd deimlo’n ynysig ar adegau. Mae rhyngweithio â phobl eraill yn llesol er mwyn cadw’ch iechyd meddwl yn iach. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml â darllen stori amser gwely gyda’ch plant, neu gymryd rhan mewn camp neu weithgaredd oddi ar y fferm.
  1. Darganfod Rhwydwaith Cymorth a Siarad gyda nhw: Gall siarad am yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd helpu eich iechyd meddwl, p’un ai os ydych eisiau dathlu’r pethau da neu drafod yr heriau sy’n eich wynebu.  Bydd amgylchynu’ch hun gyda phobl sy’n poeni amdanoch yn gymorth i chi oresgyn iechyd meddwl gwael yn ogystal â llenwi’ch bywyd â llawenydd ar yr un pryd.
  1. Cymeryd / Ymlacio: Gall hyn fod yn anodd yn ystod tymhorau prysur ffermio, ond mae newid golygfa neu gyflymder yn dda i’ch iechyd meddwl. Gallai saib 5 munud, neu stopio ac ymestyn ar y tractor, cymryd egwyl neu amser cinio hanner awr, neu dreulio ychydig oriau yn mwynhau gweithgaredd hollol wahanol, wneud byd o les i chi. Gall ychydig funudau hyd yn oed fod yn ddigon i leddfu’r straen.  
  1. Helpu Eraill: Mae gofalu am bobl eraill yn aml yn rhan bwysig o gryfhau perthnasoedd â phobl sy’n agos atoch chi. Gall wirfoddoli’ch amser a’ch egni i helpu rhywun arall wneud i chi deimlo’n dda hefyd – ac mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd.

9. Deall Bod Eich Iechyd Meddwl Wastad yn Newid: Nid yw iechyd meddwl yn rhywbeth rydych chi’n delio ag ef unwaith. Mae cyflwr eich meddwl yn rhywbeth sydd wastad yn newid ac mae angen i chi ei drin felly. Dysgwch sut i adnabod arwyddion bod dirywiad yn eich cyflwr meddwl fel y gallwch chi lenwi’ch bywyd â gweithgareddau a meddyliau sy’n gwneud i chi deimlo’n rymus ac yn llawen.

10. Gofyn am Help: Mae’n bwysig gofyn am help pan fydd ei angen arnoch.  Mae ceisio am gymorth yn arwydd o gryfder ac mae’n bwysig cofio bod triniaeth yn gallu bod yn effeithiol. Gall pobl sy’n derbyn y gofal priodol wella o salwch meddwl a gall arwain at fyw bywydau llawn a hapus unwaith eto.

Gan Lesley Kelly, Ffermwr a Chyd-sylfaenydd y Sefydliad Do More Agriculture.

Diolch i Sefydliad ‘Do More Agriculture’ am gael cyfieithu’r erthygl hon.  Nid bwriad y sefydliad yw cynnig cyngor meddygol proffesiynol, diagnosis na thriniaeth. Os ydych chi mewn argyfwng, ymwelwch â’ch adran achosion brys lleol neu ffoniwch 999 ar unwaith.

Sefydlwyd Do More Ag yn 2018 i hyrwyddo ymwybyddiaeth, lles ac ymchwil iechyd meddwl; yn ogystal â grymuso cynhyrchwyr i ofalu am eu hiechyd meddwl trwy addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth. Mae’r sefydliad hefyd yn ymroddedig i greu cymuned o berthyn, cefnogaeth ac adnoddau ar iechyd meddwl. Ewch i www.domoreag.ag am fwy o wybodaeth.