Wyt ti’n berson sydd:
– â diddordeb mewn helpu unigolion a chymunedau
– yn llawn syniadau creadigol
– yn drefnus
– eisiau helpu datblygiad Nerth dy Ben
Os felly, ymgeisia am swydd Swyddog Datblygu gyda Nerth dy Ben.
Mae hon yn swydd newydd a fydd yn allweddol i sicrhau bod Nerth dy Ben yn parhau i gryfhau, datblygu a gallu buddsoddi yn y cynnwys a’r ddarpariaeth. Bydd y swydd hon yn gyfrifol am weithgarwch dydd i ddydd Nerth dy Ben wrth gydlynu a gwireddu’r cynllun busnes ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a phartneriaid.
Dyddiad Cau – 20/11/23 am hanner dydd.
Clicia ar y logo ar y dde er mwyn gweld yr hysbyseb llawn ac i ymgeisio.